91热爆

Eisteddfod Genedlaethol 2024: Sut mae cyrraedd y maes?

Eisteddfod
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r trefniadau teithio ar gyfer ymweld 芒'r Brifwyl ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.

Bydd y Brifwyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 3 Awst ac yn dod i ben ar nos Sadwrn 10 Awst.

Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.

Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.

"Rydyn ni鈥檔 awyddus i sicrhau nad ydyn ni鈥檔 ychwanegu at y broblem, ac nad yw ymwelwyr yn cael trafferthion i gyrraedd y Maes ar amser," medd llefarydd.

Mae anogaeth hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Ar dr锚n

Erbyn hyn mae gwasanaeth Metro De Cymru yn weithredol yn yr ardal.

O fewn ardal Metro De Cymru bydd trenau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod a fydd yn rhedeg o Gaerdydd i Bontypridd tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos.

Mae gorsaf drenau Pontypridd wedi鈥檌 lleoli pum munud ar droed o鈥檙 Maes, a 25 munud ar droed o Faes B.

Mae trenau'n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberd芒r a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd.

Os ydych yn bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rymni, bydd angen i chi newid yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r croeso yn fawr ym Mhontypridd, ond mae rhybudd i beidio 芒 pharcio yn y dref

Ar fws

Mae nifer o gwmn茂au bysiau鈥檔 rhedeg gwasanaethau cyson o wahanol rannau o鈥檙 Cymoedd a thu hwnt i鈥檙 orsaf fysiau yng nghanol Pontypridd, sydd rhyw dri munud o gerdded o鈥檙 Maes.

Mae modd gynllunio eich taith drwy ddefnyddio Traveline Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a鈥檙 Maes yn rheolaidd, gyda鈥檙 daith yn cymryd tua 20 munud

Beicio

Bydd digonedd o fannau i gloi beiciau y tu allan i ddwy fynedfa'r Maes.

Gyda Llwybr Taf mor gyfleus, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gobeithio y bydd ymwelwyr lleol (neu egn茂ol) yn dewis cerdded neu feicio i gyrraedd Pontypridd.

Mae llwybr ar gael i feicwyr o鈥檙 safle parcio a theithio yn Y Ddraenen-wen hefyd - felly mae modd dod 芒 beic ar gefn neu yn y car a beicio i鈥檙 Maes ei hun.

Teithio o鈥檙 maes carafanau i鈥檙 Maes

Mae teithio o ben pellaf y safle i'r brif fynedfa yn llai na hanner milltir o bellter, gyda'r daith yn cymryd llai na 20 munud ar hyd llwybr diogel a phwrpasol i feicwyr a cherddwyr, gyda phalmant a golau stryd.

Bydd stiwardiaid wedi'u gosod ar hyd y llwybr.

Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o'r safle i'r Maes eleni.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o'r maes carafanau i'r Maes eleni

Gyrru i'r Brifwyl

Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i rannu lifft er mwyn lleihau nifer y ceir.

Does dim meysydd parcio ceir arferol yn nhref Pontypridd yn ystod yr wythnos, felly mae angen defnyddio鈥檙 meysydd parcio a theithio yn hytrach na gyrru i mewn i鈥檙 dref.

Bydd bysiau parcio a theithio rheolaidd rhwng y meysydd parcio a鈥檙 Maes.

Bydd y rhain yn rhedeg drwy gydol y dydd o ddechrau鈥檙 bore tan ddiwedd y gweithgareddau ar y Maes, ac maen nhw am ddim gyda thocyn Maes.

Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i archebu lle parcio a theithio ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o fysiau ar gael i gludo pawb i鈥檙 Maes drwy gydol yr wythnos.

Mae modd archebu lle parcio a theithio .

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau faes parcio - y naill ar gyfer teithwyr o'r gogledd, a'r llall ar gyfer teithwyr o'r de

Dylai teithwyr o鈥檙 gogledd, a鈥檙 rhai sy鈥檔 teithio o gyfeiriad Merthyr Tudful barcio ym maes parcio鈥檙 gogledd yn Abercynon (cod post CF45 4UQ).

Bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a鈥檙 Maes yn rheolaidd gyda鈥檙 daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.

Lleolir y maes parcio ar gyfer ymwelwyr o Gaerdydd a鈥檙 de yn Y Ddraenen-wen (cod post CF37 5AL).

Fel uchod, bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a鈥檙 Maes yn rheolaidd, gyda鈥檙 daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.

Y cyngor yw i bobl ddilyn yr arwyddion pwrpasol oddi ar yr A470 i gyrraedd y ddau faes parcio.

Parcio bathodyn glas

Mae parcio cyfyngedig ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym maes parcio Stryd y Santes Catrin yng nghanol Pontypridd (cod post CF37 2TB).

Rheolir y maes parcio hwn gan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, er mwyn sicrhau mai dim ond ymwelwyr gyda bathodyn glas sy鈥檔 gallu parcio yno.