91热爆

Canser: 'Mynd at y meddyg yn gynnar wedi fy achub'

Robert WynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Robert Wyn lawdriniaeth frys i dynnu canser yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Roedd 2020 yn flwyddyn hynod o anodd i'r canwr a'r cyn-brifathro Robert Wyn o'r Bontnewydd ger Caernarfon.

Ym mis Mehefin, yn anterth y cyfnod clo, cafodd wybod fod ganddo ganser y coluddyn ac mae'n hynod o falch iddo gysylltu 芒'i feddyg teulu yn gynnar.

Yn 么l ymchwil newydd gan Cancer Research UK dyw nifer y rhai sydd 芒 symptomau posib canser ddim yn cysylltu 芒'i meddyg teulu yn ddigon cynnar - yn enwedig pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

"Dwi mor falch bo' fi wedi cysylltu 芒'r meddyg yn fuan. Fe wnaeth mynd at y meddyg yn gynnar fy achub," meddai Robert Wyn, 71, wrth siarad 芒 Cymru Fyw.

'Roeddwn yn ddyn iach ar hyd fy oes'

"Roeddwn wedi bod yn s芒l am ryw dair wythnos a ddim yn gwybod beth oedd yn bod.

"Roedd hi'n gyfnod y pandemig ac wrth gwrs roedd rhywun yn gyndyn iawn i ffonio'r meddyg - ond dwi mor falch bo fi wedi 'neud.

"Covid oedd ar feddwl pawb ac roedd yna amheuon mai dyna oedd yn bod arna' i ond fe ddangosodd prawf gwaed yn wahanol ac fe gefais fy rhuthro i gael llawdriniaeth frys y noson honno.

"Oni bai bo' fi wedi mynd at y meddyg mor fuan dwi'm yn gwybod be' fyddai wedi digwydd - wedi'r cyfan roeddwn yn ddyn iach ar hyd fy oes a ddim wedi bod at y meddyg am ddegau o flynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Robert Wyn ei fod yn "ddyn iach ar hyd fy oes a ddim wedi bod at y meddyg am ddegau o flynyddoedd"

Ofn cysylltu 芒'r meddyg teulu

Mae gwaith ymchwil Cancer Research UK yn dweud nad yw hanner y bobl mewn ardaloedd difreintiedig (51%) wedi bod yn cysylltu 芒'u meddygon teulu pan eu bod, o bosib, 芒 symptomau posib canser.

Y prif reswm, yn 么l yr arolwg, am beidio neu am oedi gwneud hynny yw ei bod hi'n anodd cael apwyntiad gyda'r meddyg teulu.

Wrth gael eu holi dywedodd eraill nad oedden nhw'n dymuno siarad 芒 derbynnydd am eu symptomau, doedd 14% ddim am gael eu gweld yn creu unrhyw ffws a nododd 14% arall eu bod yn ofni na fyddai eu symptomau yn cael eu cymryd o ddifri.

Gydol misoedd Ebrill a Mai bydd ymgyrch 'Canfod Canser yn Gynnar' yn defnyddio hysbyseb deledu ddwyieithog bwerus sy'n cynnwys dyn yn ei 50au yn siarad ag ef ei hun gan bendroni p鈥檜n ai y dylai gysylltu 芒'i feddyg ai peidio oherwydd ei fod wedi colli pwysau heb esboniad a pheswch na all gael gwared arno.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau canser ofyn i'w meddyg teulu am gyngor gan bod canfod yr afiechyd yn gynnar yn hollbwysig.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Robert Wyn, sy'n enillydd cenedlaethol, ei fod bellach yn canu darnau mwy heriol wedi ei driniaeth

Ychwanegodd Robert Wyn ei fod yn deall amharodrwydd pobl i ffonio'r meddyg.

"I fod yn onest doeddwn i ddim wedi bod yn g'neud y profion sgrinio yna sy'n dod drwy'r post ac fe fyddwn i'n annog pawb i'w gwneud nhw.

"Maen nhw mor bwysig er mwyn cael diagnosis cynnar."

Diagnosis cynnar yn 'allweddol'

Yn 么l Michelle Mitchell, prif weithredwr Cancer Research UK mae鈥檔 鈥渁llweddol鈥 bod cleifion yn cael diagnosis cyn gynted 芒 phosib er mwyn cael triniaeth lwyddiannus.

鈥淩ydym yn hynod bryderus nad yw llawer o bobl yng Nghymru sy'n cael symptomau canser posib yn cysylltu 芒'u meddyg teulu,鈥 meddai.

Mae鈥檙 athro Tom Crosby yn gyfarwyddwr clinigol Canser Cenedlaethol Cymru ac yn dweud fod canfod canser yn gynnar yn holl bwysig i 鈥渨ella cyfradd goroesi cleifion canser yng Nghymru".

"Rydym yn annog cleifion sydd ag arwyddion a symptomau parhaus i gysylltu a mynd i weld eu meddyg teulu, a lle bo'n briodol i gael profion diagnostig.

"Bob blwyddyn mae tua 19,800 o bobl yng Nghymru yn cael y newyddion bod canser arnynt, gyda'r rhan fwyaf o achosion ymhlith pobl 50 oed a throsodd."

'Peidio bod ag unrhyw gywilydd'

Wedi ei lawdriniaeth fe gafodd Robert Wyn driniaeth cemotherapi ataliol.

"Rhyw ddwy driniaeth o cemo lwyddais i eu cael allan o chwech ac roedd y driniaeth yn anodd i mi.

"Mis Medi oedd hynny ac ar un adeg roeddwn yn meddwl na fyddwn i yma erbyn Nadolig 2020.

"Ond mi wellais, mi ges sgan clir a dwi'n ddyn cryf eto ac yn canu darnau sy'n gofyn am reolaeth anadl heriol.

"Yn sicr mae'n bwysig mynd at y meddyg yn gynnar os oes unrhyw amheuaeth neu os oes rhywbeth sy'n wahanol i'r arfer.

"Rhaid peidio bod ag unrhyw gywilydd."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n am sicrhau fod gan bobl fynediad i wasanaethau meddyg teulu yn y GIG cyn gynted 芒 phosib ar sail eu hangen.

"Eleni ry'n wedi buddsoddi 拢20m yng Ngwasanaethau Meddygol Cyffredinol er mwyn cefnogi gofal o ansawdd uchel - y buddsoddiad mwyaf ers blynyddoedd.

"Yn 2019 fe wnaethon ni fuddsoddi 拢3.7m mewn systemau ff么n digidol fel ei bod hi'n haws i bobl gysylltu 芒'u meddygfa leol.

"Ry'n hefyd wedi darparu cyllid o 拢12m am dair blynedd o 2022 er mwyn cefnogi meddygfeydd i gynyddu nifer eu staff a gwella mynediad."