91热爆

Dyn yn euog o gynorthwyo i lofruddio Ashley Sarsero

Ashley SarseroFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ashley Sarsero, 26 oed, ei lofruddio fis Medi 2023.

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gael yn euog o gynorthwyo i lofruddio Ashley Sarsero y tu allan i'w gartref yn ardal Llanelli y llynedd.

Roedd Steven George Morgan sy鈥檔 36 oed o Ffordd yr Orsaf, Llanelli, wedi gwadu cynorthwyo troseddwr.

Fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu Morgan yn euog o fwyafrif.

Roedd yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron Abertawe ochr yn ochr 芒 James Allan Smith, sydd hefyd yn 36 oed o Nelson Road, Llanelli, a gafwyd yn euog o lofruddio Ashley Sarsero ddydd Mercher.

Fe gafodd Mr Sarsero, oedd yn 26 oed, ei drywanu yn ei wddf gyda chyllell bysgota y tu allan i'w gartref yn ardal Maestir yn Felinfoel fis Medi diwethaf.

Bydd Smith a Morgan yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig