91热爆

Sefyllfa staff Ysgol Syr Hugh Owen yn 'sefydlog' erbyn hyn - cyngor

YSHOFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd ffynhonnell wrth 91热爆 Cymru ddydd Llun fod y sefyllfa yn Ysgol Syr Hugh Owen yn "argyfwng"

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud fod y sefyllfa wedi "sefydlogi" yn un o ysgolion uwchradd y sir ar 么l lefel "anarferol o uchel" o salwch ymhlith staff.

Roedd Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn wynebu trafferthion oherwydd bod cymaint o staff wedi bod i ffwrdd o'r gwaith yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd ffynhonnell wrth 91热爆 Cymru ddydd Llun fod y sefyllfa yn "argyfwng" ond nad oedd yn unigryw i Ysgol Syr Hugh Owen.

Mae lefelau "bregus" o staffio ym myd addysg yn gyffredinol yn cael eu gwaethygu gan brinder athrawon cyflenwi, meddai'r ffynhonnell, oedd am aros yn ddienw.

Ond dywedodd Cyngor Gwynedd fod y sefyllfa yn yr ysgol erbyn hyn "wedi sefydlogi yn dilyn cyfnod byr iawn o lefel anarferol o uchel o salwch staff".

"Rydym yn ddiolchgar i'r disgyblion a'u rhieni am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad dros y dyddiau diwethaf," meddai llefarydd.

Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 875 o ddisgyblion o Gaernarfon a'r ardaloedd gwledig cyfagos.

Mae yno 52 o athrawon a 34 o aelodau staff cynorthwyol.

Pynciau cysylltiedig