Gwrthdrawiad Y Bermo: Teyrnged i ddynes 84 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedrannus wedi marw a phedwar o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion un o drefi glan m么r y gogledd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ran o'r A496 ger Y Bermo, sy'n cael ei nabod fel y Glandwr Straight, tua 13:14 brynhawn Gwener.
Roedd yna ddau gar yn y gwrthdrawiad - Suzuki Ignis gwyn a Kia Carens arian.
Bu farw Jean Harris, a oedd yn 84 oed ac yn byw yn ardal Dolgellau, yn y fan a'r lle er ymdrechion y gwasanaethau brys i'w hachub.
Dywedodd ei theulu: "Mae ein calonnau wir yn torri bod ein Mam annwyl wedi ei chymryd oddi arnom yn gynamserol.
"Hi oedd calon ein teulu mawr, a fydd ein bywydau byth yr un fath eto. Bydd yn cael ei cholli'n aruthrol."
Fe gafodd pedwar person eu cludo i ysbyty yn Stoke - tri mewn hofrennydd, ac un mewn ambiwlans.
Mae tri pherson yn dal yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond fe gafodd y pedwerydd adael fore Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eleri Jones o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru bod eu meddyliau gyda theulu Mrs Harris "ar yr adeg anodd yma".
Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu oedd yn teithio ar hyd yr A496 cyn y gwrthdrawiad sydd 芒 lluniau dash cam."