91热爆

Caernarfon: Nain yn disgrifio ymosodiad ci ar ei h诺yr

CaioFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae nain y bachgen wyth oed a gafodd anafiadau difrifol ar 么l ymosodiad gan gi yng Nghaernarfon wedi bod yn disgrifio sut y bu'n rhaid iddi amddiffyn ei h诺yr.

Bu'n rhaid cludo Caio i Ysbyty Alder Hey, Lerpwl yn dilyn y digwyddiad ar ffordd Penrallt Uchaf fore Sul.

Roedd Caio ar ei ffordd i barti pen-blwydd pan glywodd ei nain, Ruth Ann Jones, gymdoges yn galw arni i ddod allan o'i th欧, meddai.

Dywedodd Ms Jones ei bod wedi rhedeg at Caio pan welodd hi'r ci yn ymosod arno.

Yn gynharach ddydd Llun cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod Caio yn parhau yn yr ysbyty gydag "anafiadau all newid bywyd".

Mae ei nain yn dweud ei fod wedi colli ei fawd yn yr ymosodiad.

Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi oedd allan o reolaeth gan achosi anaf difrifol.

'Y ci isio Caio'

"O'n i'n gweld fel o'n i'n mynd i fyny fod y ci 'ma [yn ymosod ar Caio]. Wedyn o'n i'n trio pwsho'r ci a cicio'r ci a oedd y ci yn cau symud nagoedd," meddai.

"Mi ath bawd Caio wedyn yn ei geg ag oedd o'n llusgo Caio ar y llawr, llusgo fo - 'sa chdi'n taeru mai babi dol oedd o a ma Caio'n pwyso chwech stone.

"Duw a helpo ni os oedd 'na blentyn bach yna ia, so be nesh i oedd dragio Caio yn erbyn wal a rhoi fy nghorff i dros fo because o'n i'n gwbod os 'sa Caio wedi cerdded lawr stryd 'sa'r ci 'ma 'di dal o a 'swn i byth wedi gallu dal Caio mewn digon o amsar a 'sa fo 'di rowlio lawr a fysa 'na fwy o olwg ar Caio bach.

"So 'nes i gyfro corff Caio i gyd a neud yn si诺r - oedd y ci ar fy nghefn i a aeth o rhwng fy nghoesau i, oedd o dal isio Caio. Doedd y ci ddim isio fi ond a'th o ar fy nghefn i i drio dragio fi o 'na i fo gal mynd at Caio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Benrallt Uchaf tua 11:00 ddydd Sul

'Pryder yn y gymuned'

Mae'r ci wedi ei ddifa ac mae'r heddlu eto i gadarnhau ei fr卯d. Y gred ydy mai ci tarw XL oedd yn gyfrifol - ond nid yw hynny wedi'i gadarnhau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Mae'r digwyddiad yma yn naturiol wedi achosi pryder yn y gymuned leol ac fe fydd yna bresenoldeb heddlu fwy amlwg yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd.

"Mae ein hymholiadau'n parhau, ac rwyf yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld, neu sydd 芒 lluniau o'r digwyddiad i gysylltu gyda'r heddlu.

"Rydym yn parhau i roi cefnogaeth i deulu'r plentyn yn ystod yr adeg trawmatig yma a gofynnwn i'w preifatrwydd gael ei barchu."

Mae modd helpu'r ymchwiliad trwy eu wefan neu drwy ffonio 101, gan grybwyll y cyfeirnod Q119639.