Gweithwyr y gwasanaeth t芒n wedi eu 'gadael i lawr'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr y gwasanaethau t芒n ac achub yng Nghymru wedi eu "gadael i lawr" gan y rhai sy鈥檔 eu llywodraethu, yn 么l pwyllgor o Aelodau鈥檙 Senedd.
Fe lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad ar 么l adroddiad damniol i ddiwylliant Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru, a phryderon am Stuart Millington, a gafodd ei benodi鈥檔 brif swyddog t芒n dros dro yn dilyn yr adroddiad.
Clywodd ymchwiliad y pwyllgor nad oes gan yr awdurdodau t芒n y sgiliau sydd eu hangen i lywodraethu鈥檙 gwasanaethau t芒n, a bod hyder staff wedi鈥檌 "danseilio" gan benodiad Mr Millington.
Mae Mr Millington yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn gysylltiedig 芒鈥檌 waith fel dirprwy brif swyddog gyda Gwasanaeth T芒n Gogledd Cymru.
Mae cadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone, wedi annog Llywodraeth Cymru i gymryd 鈥渃amau radical鈥, gan ychwanegu bod angen newid brys i "adfer ffydd fel bod yr holl staff yn teimlo鈥檔 ddiogel yn y gweithle".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn "ystyried y canfyddiadau鈥檔 ofalus fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio llywodraethu, a gwella diwylliannol yn y sector t芒n".
Fis Ionawr, fe wnaeth adolygiad o鈥檙 diwylliant yng Ngwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru ganfod fod diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.
O ganlyniad, fe osododd Llywodraeth Cymru bedwar comisiynydd i oruchwylio Gwasanaeth De Cymru yn lle'r Awdurdod T芒n.
Penododd y comisiynwyr Mr Millington yn brif swyddog t芒n dros dro.
Yn ddiweddarach cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad i ddiwylliant y gwasanaethau t芒n eraill yng Nghymru.
Pethau wedi mynd yn 'llawer gwaeth'
Fe achosodd penodiad Mr Millington bryder ymhlith rhai diffoddwyr, gydag aelodau o Undeb y Brigadau T芒n yn ne Cymru yn pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder yn y penodiad ym mis Chwefror.
Dywedodd Cerith Griffiths, cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor gwaith yr undeb, bod pethau wedi mynd yn "llawer, llawer gwaeth" ers i Mr Millington gael ei benodi.
Mae鈥檙 pwyllgor yn argymell bod Awdurdodau T芒n yn cael eu diwygio ar 么l clywed nad oedd gan aelodau鈥檙 "sgiliau gofynnol" i graffu a goruchwylio'r ffordd y mae gwasanaeth t芒n yn gweithredu, a鈥檜 bod yn "annhebygol" o helpu i gyflawni newid diwylliannol.
Dywedodd Jenny Rathbone: "Cawsom ein siomi o glywed faint o bobl ar frig y system lywodraethu bresennol nad oedd i鈥檞 gweld yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw鈥檙 broblem."
Wrth ystyried penodiad Stuart Millington yn brif swyddog t芒n dros dro De Cymru, fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad fod "diffyg eglurder a naws amddiffynnol" nifer o unigolion a ymatebodd i鈥檙 pryderon hyn yn peri gofid.
Roedd yn poeni y gallai hyn "atgyfnerthu canfyddiadau negyddol" am ymrwymiad uwch reolwyr i wella diwylliant y gwasanaeth t芒n.
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Mae鈥檙 adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio鈥檔 agos gyda Chomisiynwyr T芒n i ddod ag unigolion ffres 芒 "sgiliau a phrofiadau" o鈥檙 tu allan i鈥檙 sector yng Nghymru i鈥檙 rolau allweddol sy鈥檔 gyfrifol am newid diwylliant.
Dywedodd Sioned Williams AS, sy'n aelod o'r pwyllgor: "Mae yna nifer o syniadau a chynigion wedi bod dros y blynyddoedd sydd heb gael eu gweithredu.
"'Dw i鈥檔 meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru fynd n么l at rai o鈥檙 syniadau hynny.
"Rydym ni鈥檔 awgrymu cwpl o bethau yn ein hadroddiadau yngl欧n 芒 chael gwasanaethau i gydweithio鈥檔 well, ond hefyd ffyrdd o gryfhau rheolaeth a llywodraethiant.
"Rydyn ni wedi gweld, drwy鈥檙 adroddiadau sydd wedi bod yn y wasg, yr effaith sydd wedi bod ar staff, o ran y diwylliant sydd wedi datblygu, felly mae'n rhaid i ni edrych ar sut i atal hynny."
Daeth y cyfnod lle'r oedd modd i bobl wneud cais i fod yn brif swyddog Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru i ben fis diwethaf.