91热爆

Dyn wedi marw mewn digwyddiad beic cwad yng Ngheredigion

LlanilarFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llanilar nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 65 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud 芒 beic cwad amaethyddol yng Ngheredigion.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gae yn ardal Llanilar ger Aberystwyth nos Fercher.

Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, yn 么l Heddlu Dyfed-Powys.

Ychwanegodd y llu bod teulu'r dyn yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael manylion yr achos.

Pynciau cysylltiedig