Cefnu ar gynlluniau am gwot芒u rhywedd yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar gynlluniau i orfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o ymgeiswyr yn fenywod ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Ym mis Gorffennaf cafodd y syniad ei ohirio tan o leiaf 2030, ond mae'r cynllun yn cael ei dynnu 'n么l yn llwyr bellach.
Mae gweinidogion yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i gael Senedd fwy hafal o ran rhywedd, a chael mwy o fenywod i fod yn rhan o wleidyddiaeth.
Mewn datganiad dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt y bydd y llywodraeth yn "canolbwyntio ei egni llawn ar gyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru".
Roedd y cynlluniau eisoes wedi profi'n ddadleuol, gyda chwestiynau a oedden nhw'n gyfreithlon, ac a oedd gan y Senedd y p诺er i wneud y newid.
Bydd Aelodau'r Senedd yn cynnal dadl a phleidlais ar 24 Medi ar y cynnig i gefnu ar y mesur.
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
Dywedodd Ms Hutt: "Yfory, bydd y prif weinidog yn gosod ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd, gan nodi'r ardaloedd hynny ble y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei egni llawn ar gyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru.
"O ganlyniad, rydyn ni'n edrych ar draws y llywodraeth ar ardaloedd ble gallwn ni weithredu ein nodau polisi a deddfwriaeth mewn modd mwy ymarferol ac amserol.
"Wedi ystyried, rydym wedi penderfynu cyflwyno cynnig i dynnu'r Bil rhag cael ei ystyried ymhellach gan y Senedd."
Dywedodd y llywodraeth y bydd nawr yn "cyflymu" rhoi canllawiau newydd i'r pleidiau ar amrywiaeth a chynhwysiad.
Amheuon am y mesur ers tro
Roedd y Llywydd Elin Jones wedi codi amheuon yngl欧n ag a oedd gan y Senedd y p诺er i gyflwyno'r gyfraith newydd.
Roedd pwyllgor o ASau hefyd wedi rhybuddio y gallai'r cynlluniau wynebu her gyfreithiol, allai o ganlyniad "beryglu" etholiad y Senedd yn 2026.
Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhybuddio hefyd y gallai fod yn anghyfreithlon gadael i ymgeiswyr hunan-adnabod fel menywod, hyd yn oed os nad dyna eu rhyw cyfreithlon.
Cafodd y cynlluniau am gwot芒u rhywedd eu gwahanu felly o'r gyfraith i gynyddu nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96. Mae'r gyfraith honno bellach wedi cael ei phasio.
Roedd Plaid Cymru wedi bod o blaid y ddeddfwriaeth, gan ddweud ei fod yn "gam mawr ymlaen i gryfhau democratiaeth".
Ond roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi eu gwrthwynebu, gan ddweud y dylai'r ymgeiswyr gorau gael eu dewis, beth bynnag eu rhywedd.