Y Seintiau i herio Fiorentina yng Nghyngres UEFA
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Y Seintiau Newydd yn wynebu cewri'r Eidal, Fiorentina, a Panathinaikos o wlad Groeg fel rhan o'u hymgyrch cyntaf erioed yn un o brif gystadlaethau Ewrop.
Fe wnaeth buddugoliaeth y Seintiau o 3-0 dros ddau gymal yn erbyn FK Panev臈啪ys o Lithwania sicrhau eu lle yng Nghyngres UEFA y tymor hwn.
Nhw ydy'r clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni.
Cafodd gwrthwynebwyr Y Seintiau eu dewis mewn digwyddiad ym Monaco brynhawn Gwener.
Fe fydd pencampwyr Cymru yn chwarae chwe g锚m yn rownd y gynghrair, yn erbyn Fiorentina o'r Eidal, Djurg氓rdens o Sweden, Astana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia.
Bydd y gemau yn erbyn Djurg氓rdens, Astana a Panathinaikos gartref, a'r tair arall oddi cartref.
Sut mae'r gystadleuaeth yn gweithio eleni?
Bydd dilynwyr p锚l-droed Ewropeaidd neu rai o brif glybiau Lloegr o bosib yn ymwybodol fod fformat y tair prif gystadleuaeth wedi newid rhywfaint eleni.
Un gynghrair fydd rownd gynta'r cystadlaethau eleni yn hytrach na'r casgliad o grwpiau llai fel yr arfer.
Yng Nghyngres UEFA cafodd 36 o dimau eu rhannu i chwe phot - gyda'r timau cryfaf, yn 么l mesuriadau UEFA, ym mhot 1 a'r gwannaf ym mhot 6. Roedd Y Seintiau Newydd ym mhot 4.
Roedd y timau wedyn yn cael eu dewis fesul un ac roedd meddalwedd arbennig yn dewis chwe gwrthwynebydd ar hap i bob t卯m - un o bob un o'r chwe phot - ac yn nodi pa dair g锚m fyddai gartref, a pa dair fyddai oddi cartref.
Bydd y timau sy'n gorffen yn yr wyth safle uchaf yn y gynghrair yn mynd yn syth i'r rownd nesaf, fe fydd y timau sy'n gorffen rhwng safleoedd 9-24 yn gorfod wynebu gemau ail gyfle, a'r clybiau sy'n gorffen yn is na hynny yn y tabl yn gadael y gystadleuaeth.
Pryd fydd y gemau?
Dydy trefn y gemau heb ei gadarnhau gan UEFA eto, ond mae'r dyddiadau wedi eu cyhoeddi:
G锚m 1: 3 Hydref
G锚m 2: 24 Hydref
G锚m 3: 7 Tachwedd
G锚m 4: 28 Tachwedd
G锚m 5: 12 Rhagfyr
G锚m 6: 19 Rhagfyr
Y bwriad yw cyhoeddi'r manylion yn llawn ddydd Sadwrn ar 么l sicrhau nad oes gemau o wahanol gystadlaethau Ewropeaidd yn cael eu chwarae yn yr un ddinas ar yr un dyddiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf