91热爆

Cofio mynd i bysgota gyda Jimmy Carter yn 1986

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jimmy Carter a Moc Morgan yn pysgota ar Lyn Clywedog

Mae cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America, Jimmy Carter, yn 100 oed ar 1 Hydref 2024.

Ym Mehefin 1986, daeth ar wyliau i Dregaron, a mynd i bysgota 驳测诲补鈥檙 arbenigwr pysgota byd-enwog, Moc Morgan a鈥檌 fab Hywel.

Hywel sydd yn hel atgofion am y profiad "gwahanol":

O America i Dregaron

鈥淩oedd person oedd yn berchen ar fferm yn Nhregaron yn advisor pan oedd Jimmy Carter yn arlywydd. Dyna鈥檙 cysylltiad gyda Thregaron,鈥 eglurodd Hywel.

鈥淩oedd e wedi dod i aros gyda鈥檌 ffrind. Roedd yr afon Teifi yn mynd drwy鈥檙 fferm, felly bysgotodd e ar afon Teifi."

Moc Morgan oedd 鈥楳istar Pysgota' Cymru ar y pryd, felly cafodd wahoddiad i fynd i bysgota 驳测诲补鈥檙 cyn-Arlywydd a鈥檌 wraig, Rosalynn. Roedd Moc wedi dod 芒鈥檌 fab 18 oed, Hywel, i ymuno yn yr hwyl.

鈥淏ysgotodd e ar Lyn Clywedog un bore; Dad a Jimmy ar un cwch, a fi a Rosalynn yn y cwch arall," meddai Hywel.

Daliodd Rosalynn y pysgodyn cyntaf, ac yn 么l y s么n, roedd Jimmy i lawr am 5am y bore wedyn yn trio cael pysgodyn hefyd!

鈥淩oedden ni wedi pysgota ar y Tywi hefyd. Ar yr ail noswaith, roedd gan Dad gyfarfod, felly aeth fi, Jimmy a Rosalynn gyda鈥檔 gilydd.鈥

Profiad gwahanol

Roedd yn brofiad 鈥渉ollol wahanol鈥, meddai Hywel, yn enwedig i 鈥渇achgen o gefn gwlad鈥.

鈥淵n Clywedog, roedden ni mewn convoy, car heddlu o鈥檔 blaenau ni a bws mini, ond roedd Jimmy wedi penderfynu neidio mewn i鈥檔 car ni. Roedd y dyn security mawr yn dweud 'na'... ond pan mae Jimmy Carter yn dweud, ar bwy ti鈥檔 gwrando?!

"Mynd i lawr y 濒么苍, ac edrych yn 么l, a鈥檌 wraig a鈥檌 ferch yn cael eu taflu i mewn i鈥檙 bws mini; pawb yn panicio oherwydd bod Jimmy eisiau mynd i bysgota!

Anaml mae person yn mynd i bysgota gyda chwe security guard, dyn MI6 yn cario gwn, a marksman ar y mynydd. Roedd e鈥檔 agoriad llygad."

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Cyn-Arlywydd yr UDA Jimmy Carter yn ymweld 芒 Thregaron yn 1986

'Call me Jimmy'

Mae Hywel yn cofio'n 么l yn hapus am y dyddiau roedd wedi eu treulio gyda chyn-Arlywydd America, neu 'Jimmy'.

鈥淒oedd dim airs and graces na dim. Roedd e ond ond eisiau siarad am bysgota. A ddywedodd e 鈥渃all me Jimmy鈥. Pobl hyfryd.

鈥淩oedd e wedi ysgrifennu llyfr am bysgota dros Ewrop, ac mae yna ddwy dudalen yn s么n am bysgota gyda ni. Roedd e wedi llofnodi llyfr yr un i Dad a fi.鈥

鈥淒yddiau yma byddai'r stori dros y cyfryngau cymdeithasol, ond doedd neb llawer o鈥檙 papurau yn gwybod.

"Ond roedd pawb yn yr ardal yn gwybod; aeth tua 20 ohonon ni i鈥檙 Talbot am fwyd un noson. Roedd hi鈥檔 amser cyffrous 颈补飞苍.鈥

Ffynhonnell y llun, Y Talbot
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llun yma o Jimmy Carter yn cael pryd o fwyd yno dal i'w weld ar wal tafarn Y Talbot yn Nhregaron, bron i 40 mlynedd wedyn - a dal yn destun sgwrs!

Geirfa

cyn-Arlywydd / former president

pysgota / to fish

arbenigwr / expert

byd-enwog / world-famous

hel atgofion / to reminisce

profiad / experience

berchen ar / to own

cysylltiad / connection

egluro / to explain

ar y pryd / at the time

gwahoddiad / invitation

ymuno / join

dal / to catch

yn 么l y s么n / so the story goes

noswaith / evening

cyfarfod / a meeting

yn enwedig / especially

cefn gwlad / countryside

o'n blaenau ni / in front of us

penderfynu / to decide

neidio / to jump

濒么苍 / lane/road

taflu / to throw

anaml / seldom

gwn / gun

agoriad llygad / eye opener

treulio / to spend

llofnodi / to sign

yr un / each

cyfryngau cymdeithasol / social media

cyffrous / exciting

Pynciau cysylltiedig