Gêm gyfartal i Forgannwg a Sir Gaerlŷr ar ôl glaw
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal oedd hi rhwng cricedwyr Morgannwg a Sir Gaerlŷr yng Nghaerdydd, wedi i'r tywydd gyfyngu ar y chwarae.
Doedd dim chwarae o gwbl ar y diwrnod cyntaf oherwydd glaw, a dim ond 17 pelawd fu ar yr ail ddiwrnod.
Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'r trydydd diwrnod gan gael eu cyfyngu i 93-7.
Ond diolch i ymdrechion arwrol Michael Neser (176), Mitchell Swepson (69) a James Harris (47), llwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 403-9 yn y pendraw cyn dod â'u batiad i ben.
Yn eu hymateb nhw fe aeth Sir GaerlÅ·r tu hwnt i gyfanswm Morgannwg, a chyrraedd 451-6 cyn i'r chwarae ddod i ben ar y diwrnod olaf ddydd Iau.
Ond gyda chyn lleied o chwarae wedi digwydd dros y dyddiau cyntaf, roedd hi wastad yn anochel mai gêm gyfartal fyddai'r canlyniad.