91热爆

Archesgob yn arwain neges Nadolig i wedd茂o am heddwch

Archesgob Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru wedi galw ar y cyhoedd i ganolbwyntio ar, a gwedd茂o am, heddwch i'r rheini sy'n dioddef y Nadolig hwn.

Mewn neges ar y cyd ag Archesgob Caerdydd, Mark O'Toole, a Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling, nododd y Gwir Barchedicaf Andrew John yr heriau sy'n wynebu pobl ddiniwed ar draws y byd yn yr hyn yn ystod "blwyddyn ofnadwy i lawer".

Maen nhw'n tynnu sylw'n benodol at y rhyfeloedd sy'n parhau i ddinistrio bywydau yn Gaza ac Wcr谩in, ac at bobl ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.

"Y Nadolig hwn efallai y byddwn yn ymwybodol o densiynau mewn teuluoedd, a'r anawsterau o gael dau ben llinyn ynghyd," dywedodd y tri arweinydd yn eu datganiad.

"Eleni rydyn ni'n cofio'r rhyfeloedd yn y wlad lle ganwyd Iesu, yn Wcr谩in ac mewn rhannau eraill o'r byd.

"Ganed Iesu i fyd nad oedd yn wahanol iawn i'n byd ni heddiw. Roedd yna wrthdaro a rhyfela, roedd yna deuluoedd yn anghytuno ac yn ffraeo, ac roedd bywyd yn galed.

"Ond cerddodd Duw ar y ddaear hon trwy Iesu yn yr ardaloedd tywyll yn ogystal ag yn y goleuni gan ddod 芒 gobaith i bawb.

"Mae angen heddwch yn ein byd. Pam ddim ffeindio amser i wedd茂o dros heddwch y Nadolig hwn?

"Rydyn ni'n gwedd茂o am lawenydd a gobaith i ni i gyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cysgod yr ymladd yn Gaza sy鈥檔 cael sylw pob enwad crefyddol yng Nghymru yn eu negeseuon Nadolig eleni

Mae hefyd am i ni gofio am ganmlwyddiant Ap锚l Heddwch Menywod Cymru, i gofio am y ddeiseb a gyflwynwyd ganddynt i America ynghylch ymuno 芒 Chynghrair y Cenhedloedd i hyrwyddo 'Cyfraith nid Rhyfel'.

"Llofnodwyd y neges gan tua 60% o fenywod Cymru, ar 么l teithio o gartref i gartref ac o aelwyd i aelwyd, a dangos beth mae pobl gyffredin yn gallu ei gyflawni trwy gydweithio 芒鈥檌 gilydd."

Dyma鈥檙 ail dro i鈥檙 ddau archesgob gyhoeddi neges Nadolig ar y cyd.

Daw eu datganiad i ben drwy ddweud bod pob un ohonom angen heddwch yn ein byd: "Hwyrach ein bod am ddianc rhag tensiwn ein teuluoedd. Efallai y carem gael pum munud o lonydd i ni'n hunain wrth baratoi at y Nadolig.

"Beth am ymweld ag eglwys i gael lle i dawelu a myfyrio, a rhoi amser i wedd茂o dros heddwch y Nadolig hwn? Rydyn ni'n gwedd茂o am lawenydd a gobaith i ni i gyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd Archesgob Cymru ei neges Nadolig ar y cyd ag Archesgob Catholig Caerdydd, Mark O鈥橳oole a Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling

Polisi Rwanda'n 'anfoesol'

Mewn cyfweliad am ei neges Nadolig gyda 91热爆 Cymru, soniodd Andrew John hefyd am ei siom yn gweld Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak yn parhau gyda'r Bil Rwanda.

"Dwi'n teimlo'n siomedig oherwydd 'sa i'n credu bod y polisi yn effeithiol ond hefyd mae'n anfoesol," dywedodd.

鈥淢ae hyn yn broblem sy'n wynebu gwledydd ar draws Ewrop ac mae'n gofyn am ymateb sy'n cynnig pob gwlad yn cydweithredu.

"Dwi'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Parhau mae'r ddadl dros fwriad llywodraeth Rishi Sunak i anfon ffoaduriaid sy'n cyrraedd y DU mewn cychod bach i Rwanda

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gartref: "Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud beth bynnag sydd angen i ddod 芒 stop i'r cychod ac atal pobl rhag peryglu eu bywydau wrth law pobl ffiaidd sy'n rhan o grwpiau smyglo.

"Dyna pam rydym wedi mynd i'r afael 芒 chanfyddiadau'r Goruchaf Lys er mwyn gallu cychwyn hediadau i Rwanda cyn gynted 芒 phosib."

Ychwanegodd: "Mae Rwanda yn barod i groesawu pobl. Mae'n wlad ddiogel sy'n poeni'n fawr am gefnogi ffoaduriaid, a bydd ein Bil Diogelwch Rwanda yn gwneud hyn yn gwbl glir yng nghyfraith y DU."

'Perygl creu casineb am genedlaethau'

Sefyllfa鈥檙 Dwyrain Canol sy鈥檔 cael sylw鈥檙 Annibynwyr yng Nghymru hefyd.

"Wrth i ni ddathlu pen-blwydd Iesu mae'r lladdfa erchyll yn ei wlad enedigol yn taflu cysgod dros y dathliadau hynny," meddai'r Parchedig Jeff Williams - Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a chyn-bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Parchedig Jeff Williams, Llywydd yr Annibynwyr yng Nghymru, wed ymweld 芒 Gaza, Israel a'r Llain Orllewinol yn y gorffennol yn rhinwedd ei swydd

Mae'n poeni am y perygl y bydd y rhyfel hwn yn creu casineb am genedlaethau.

"Rhaid i鈥檙 gymuned ryngwladol wneud popeth o fewn eu gallu yn wleidyddol, a hynny ar frys, i geisio rhoi stop ar y rhyfel.

"Mae hynny鈥檔 cynnwys addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio 芒 gwerthu mwy o arfau i Israel."

Mae hefyd yn galw am ddarparu cymorth dyngarol ar "raddfa anferth i leddfu dioddefaint dinasyddion diniwed yn Gaza".

Codi llais yn erbyn anghyfiawnderau

Yr angen am heddwch a chyfiawnder yw byrdwn y Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, hefyd.

Dywed eu bod fel enwad wedi "codi llais eleni gydag eraill, gan alw am fyd tecach" a'u bod fel rhan o'r Cyngor Cenhadaeth Fyd-eang wedi tanlinellu'r "sefyllfa anghredadwy sy鈥檔 wynebu鈥檙 miliynau o bobl sydd wedi eu dal yn gaeth yn Gaza".

Ffynhonnell y llun, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Parchedig Nan Powell Davies yn tynnu sylw at anghyfiawnderau yn Gaza, Manipur a Myanmar

"Fe wnaethon ni alw ar Israel i roi'r gorau i'w bomio a rhoi sylw i'r argyfwng dyngarol sy'n traflyncu'r rhanbarth."

Mae'n hi'n cyfeirio hefyd at rannau o'r byd - fel talaith Manipur yn India, ble mae'r Presbyteriaid yn gwneud gwaith cenhadol - lle mae rhai Cristnogion wedi gorfod ffoi rhag "trais a braw".

Ychwanegodd eu bod hefyd yn parhau "i godi llais yn erbyn yr anghyfiawnderau sy'n wynebu Cristnogion, ac eraill, ym Myanmar, lle gall siarad gwirionedd wrth rym ddod 芒 chosb ffyrnig gan gynnwys marwolaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brawd a chwaer yng nghanol rwbel yn Gaza

Dywedodd Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, Bill Davies bod cyfnod y Nadolig eleni "yn gyfnod cythryblus yn hanes y byd" gan holi: "Faint o ryfeloedd sydd yn dal i fodoli heddiw tybed? Oes yna rywun yn gwybod?"

"Cofiwn yn arbennig am y Dwyrain Canol o bobman ar drothwy dathlu genedigaeth Tywysog Heddwch a ddangosodd inni fywyd llawn cariad at gyd-ddyn ac at Dduw...

"Bydded i dangnefedd yr 糯yl drigo yn ein calonnau ninnau y Nadolig hwn a thrwy gydol y flwyddyn newydd."

Pynciau cysylltiedig