Cau banciau Ceredigion yn 'glec galed i'r stryd fawr'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd Ceredigion wedi mynegi ei "siom" o glywed y bydd dau fanc arall yn cau yn yr ardal.
Fe gadarnhaodd Lloyds y bydd eu cangen yn Aberteifi yn cau ar 27 Mehefin.
Yn Aberystwyth, fe fydd cangen Halifax yn cau ar 29 Gorffennaf.
Mae'r ddau gwmni'n dweud bod mwy o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau arlein a llai yn ymweld 芒 changhennau.
Mae banc Barclays eisoes wedi dweud y bydd eu cangen yn Aberteifi yn cau ar 26 Ebrill.
Gwasanaeth bancio cymunedol wythnosol yn lle
Mae Halifax yn dweud y bydd gwasanaeth bancio cymunedol yn ymweld 芒 thref Aberystwyth unwaith yr wythnos.
Y gangen agosaf i gwsmeriaid y cwmni fydd Caerfyrddin.
Fe fydd gwasanaeth wythnosol hefyd ar gael i gwsmeriaid Lloyds yn Aberteifi.
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Evans o Aberteifi, sy'n cynrychioli ward Teifi, wrth Cymru Fyw: "Mae'n newyddion siomedig iawn i bawb sydd yn byw a rhedeg busnesau yn Aberteifi yn enwedig ar gefn y newyddion am Barclays yn cau.
"Mae Lloyds wedi addo rhoi hwb bancio yn Aberteifi o ryw fath, ond ble, so ni'n gwybod?" ychwanegodd.
"Mae'n bryder nawr y bydd adeiladau Lloyds a Barclays yn mynd i fod yn wag, reit yng nghanol dref.
"Dyw pobl henach ddim am ddefnyddio'r ap."
Dywedodd Halifax bod mwy o gwsmeriaid yn bancio arlein yn hytrach na galw mewm canghennnau fel Aberystwyth, ond mae cwsmeriaid wedi mynegi eu siom.
Dywedodd Angharad Fychan: 鈥淒wi'n bancio arlein ond yn defnyddio cangen Aberystwyth yn rheolaidd i dalu sieciau, adolygu cyfrifon ac yn y blaen.
"Bydd dim dewis nawr ond symud i fanc neu gymdeithas adeiladu arall, ond mae hynny mor drafferthus.鈥
Siwrne i Gaerfyrddin neu Bangor
Mae Aled Rees hefyd yn siomedig: "Mae rhai busnesau yn talu arian i mewn, ond dwi'n meddwl bod yn bosib gwneud hyn trwy Swyddfa'r Post gyda bron pob banc y dyddie 'ma.
鈥淒wi yn bersonol ddim yn deall pam bod y banciau ddim yn dod at ei gilydd ac agor 'hwb bancio' mewn trefi bach, gyda desg i ddelio gyda cwsmeriaid yn bersonol ar gyfer pob banc.
鈥凄颈尘 just problem i'r cwsmeriaid yw hyn... mae siwr o fod nifer o swyddi am fynd.鈥
Yn 么l Tegwen Morris, o Ferched y Wawr, mi allai cau'r banciau greu problemau ymarferol i fudiadau lleol.
"Mae yn broblem enfawr i lot o bobl bod Barclays a Halifax yn cau. Bydd cael arian m芒n allan neu dalu i fewn yn golygu siwrne i Gaerfyrddin neu Bangor!
"Mae yn bryder mawr i elusennau sydd heb gerdyn yn gysylltiedig 芒'u cyfrif. Mae pobl h欧n a bregus yn gofidio am y dyfodol."
Adeilad gwag arall ar y stryd fawr
Mae Maer Aberystwyth, Kerry Ferguson, yn siomedig, ond mae'n gweld yr angen i gwmniau "wneud penderfyniadau" gyda llai yn defnyddio'r adeiladau.
"Mae'r Cyngor Tref wedi gofyn am gyfarfod gyda Barclays i drafod syniad o 'hwb' sydd gyda nhw, ac mae'r llythyr gan Halifax yn s么n y bydden nhw hefyd yn edrych ar hwn fel opsiwn.
"Dwi ddim yn 100% os ydyn nhw wedi cychwyn trafod gyda'r cyngor sir neu ddim, ond mae'n rhywbeth o leiaf bod y banciau mawr yn gweld bydd angen hybiau bach o amgylch y lle.
"Un peth sydd yn fy mhoeni i, gyda het arall ymlaen, yw adeilad mawr arall yn wag ar y stryd fawr."
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
Roedd Barclays eisoes wedi cadarnhau y byddai'n cau eu cangen yn Aberystwyth ar 3 Mai.
Mae banciau HSBC, TSB, Nationwide, Santander a Natwest yn parhau ar agor, ar hyn o bryd.
Mae Elin Jones AS wedi disgrifio鈥檙 cyhoeddiad diweddaraf fel 鈥渃lec galed i stryd fawr ein ddwy prif dref yng Ngheredigion鈥.
鈥淢ae mor siomedig clywed y newyddion yma fydd yn gweld Aberteifi ac Aberystwyth yn colli mwy o鈥檜 prif fanciau oddi ar y stryd fawr.
"Er gallwn werthfawrogi bod y ffordd rydym yn bancio i nifer fawr ohonom yn digwydd ar ein ffonau neu arlein rhagor, mae rhan o鈥檔 cymdeithas dal i fod yn hollol ddibynnol ar fancio wyneb-i-wyneb yn eu cangen lleol," ychwanegodd.
"Mae鈥檔 ofnadwy bod ni yn y fath sefyllfa, a gobeithio deith rhywbeth allan o鈥檙 trafodaethau sy鈥檔 digwydd am greu hwbiau bancio cymunedol.鈥