91热爆

Ymchwiliad heddlu i honiadau o dreuliau ffug gan AS

Laura Anne Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i Aelod o鈥檙 Senedd gan Heddlu鈥檙 De a chorff safonau鈥檙 Senedd, yn dilyn honiadau o wneud ceisiadau treuliau ffug.

Mae Heddlu鈥檙 De wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth gan y Comisiynydd Safonau, a鈥檜 bod nhw鈥檔 ymchwilio.

Mae 91热爆 Cymru yn deall bod y wybodaeth yn ymwneud 芒 chwyn am Laura Anne Jones AS, wedi i negeseuon ddod i鈥檙 fei sy'n ymddangos yn awgrymu bod cyn-aelod o staff wedi cael cyfarwyddyd i hawlio costau teithio oedd heb ddigwydd, ar ran Ms Jones.

Dywedodd Laura Anne Jones, llefarydd y Ceidwadwyr ar Ddiwylliant, y bydd hi鈥檔 cydweithio ag 鈥渦nrhyw ymchwiliad鈥.

Mae uwch ffynhonnell o fewn y Ceidwadwyr yn dweud bod ymchwiliad mewnol ar y gweill, ond nad yw鈥檙 chwip wedi ei gymryd oddi wrth Ms Jones.

Cyfrifoldeb y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, yw i ymchwilio鈥檔 annibynnol i gwynion am ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

Mae鈥檙 91热爆 ar ddeall bod negeseuon wedi dod i鈥檙 fei fel rhan o g诺yn i鈥檙 Comisiynydd Safonau gan gyn-aelod o staff Laura Anne Jones - negeseuon sy'n ymwneud 芒 chyhuddiadau o fwlio honedig yn erbyn aelod arall o staff swyddfa.

Bellach mae鈥檔 debyg bod ymchwiliad y Comisiynydd Safonau wedi ei oedi tra bod ymchwiliad yr heddlu鈥檔 digwydd, ac mae鈥檙 heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff y Ceidwadwyr fel rhan o鈥檜 hymchwiliad.

'Cydweithio'n llawn'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod hon yn 鈥渂roses gyfrinachol rhwng y Comisiynydd Safonau a鈥檙 aelod鈥.

Mewn datganiad, dywedodd Laura Anne Jones: 鈥淏ydden i鈥檔 cydweithio鈥檔 llawn gydag unrhyw ymchwiliad i fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd, fel y byddai disgwyl i unrhyw Aelod wneud.

鈥淢ae鈥檙 broses safonau yn gyfrinachol, a bydden i鈥檔 disgwyl i eraill beidio gwneud sylwadau parhaus amdani, rhag peri risg i hygrededd y broses.鈥

Nid yw Heddlu鈥檙 De wedi cadarnhau eu hymchwiliad am nad ydyn nhw鈥檔 ymateb i geisiadau yn ymwneud ag 鈥渦nigolion penodol鈥.

Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn bryderus am yr honiadau ond nad oedd wedi derbyn cwyn, ac felly bod gan Ms Jones ei gefnogaeth.

鈥淏yddai unrhyw honiad o'r natur yna'n pryderu'r cyhoedd, nid dim ond gwleidyddion, ond mae'r aelod wedi rhoi datganiad,鈥 meddai.

鈥淢ae'r broses honno'n parhau fel dwi'n deall o adroddiadau yn y cyfryngau heddiw, ond dydyn ni fel grwp heb dderbyn cwyn gan unrhyw unigolyn, a dydw i fel arweinydd heb dderbyn cwyn.鈥

Pynciau cysylltiedig