Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer eu taith i Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith haf i Awstralia.
Bachwr Caerdydd Efan Daniel, asgellwr Caerfaddon Regan Grace ac asgellwr Caerloyw Josh Hathaway yw鈥檙 tri hynny.
Dewi Lake fydd capten y t卯m cenedlaethol wrth iddyn nhw wynebu鈥檙 Wallabies yn Sydney a Melbourne, ac yna鈥檙 Queensland Reds yn Brisbane ym mis Gorffennaf.
Mae 34 o chwaraewyr yn y garfan 鈥 19 o flaenwyr ac 15 olwr 鈥 ac mae 597 o gapiau rhyngwladol rhyngddynt.
Mae Keiron Assiratti ac Elliot Dee yn absennol o鈥檙 garfan oherwydd anafiadau, yn ogystal 芒 Henry Thomas.
"Mae鈥檙 garfan yma鈥檔 fy nghyffroi,鈥 meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.
"'Ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod fod Awstralia鈥檔 lle anodd i fynd iddo i chwarae rygbi 鈥 ond '"ry鈥檔 ni wir yn edrych 'mlaen at y daith a鈥檙 her honno."
Y garfan yn llawn
Blaenwyr
Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Efan Daniel, Dewi Lake (capten), Evan Lloyd, Archie Griffin, Dillon Lewis, Harri O鈥機onnor, Ben Carter, Cory Hill, Dafydd Jenkins, Matthew Screech, Christ Tshiunza, James Botham, Mackenzie Martin, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Olwyr
Ellis Bevan, Gareth Davies, Kieran Hardy, Sam Costelow, Mason Grady, Eddie James, Ben Thomas, Nick Tompkins, Owen Watkin, Rio Dyer, Regan Grace, Josh Hathaway, Liam Williams, Jacob Beetham, Cameron Winnett.
Gemau Cymru ar eu taith yn Awstralia
Awstralia v Cymru - Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf
Stadiwm Allianz, Sydney
Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol
Awstralia v Cymru - Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf
Parc AAMI, Melbourne
Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol
Queensland Reds v Cymru - Dydd Gwener 19 Gorffennaf
Stadiwm Suncorp, Brisbane
Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol