91热爆

'Roedd o'n sbeshal': Sgorio g么l fuddugol ar 么l nam ar y galon

Cai Penny Williams yn yr ysbyty a gyda tlws pel-droedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

(chwith) Cai Penny Williams yn yr ysbyty, a (dde - yn y canol) gyda'i gyd-chwaraewyr ar 么l ennill Cwpan Cynghrair 笔锚濒-诲谤辞别诲 Arfordir Gogledd Cymru - Gorllewin

  • Cyhoeddwyd

Mae p锚l-droediwr o Wynedd yn dathlu wedi iddo sicrhau buddugoliaeth bwysig i d卯m Y Bontnewydd wythnosau wedi iddo ailddechrau chwarae wedi nam ar ei galon.

Bedair blynedd yn 么l roedd Cai Penny Williams, sydd nawr yn 22 oed, yn chwaraewr ifanc addawol oedd yn gwneud ei farc yng ngogledd Cymru.

Dechreuodd chwarae gyda Chlwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Bontnewydd pan oedd yn chwech oed, ac roedd yn y t卯m cyntaf erbyn iddo fod yn 16.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clwb cymunedol: Cai gyda Bontnewydd pan yn blentyn, ac ar 么l ennill y gwpan gyda'i gyd-chwaraewyr yn dal baner i gofio aelod fu farw mewn damwain llynedd

Ar 么l sgorio 12 g么l mewn pum g锚m pan oedd yn 17 oed fe symudodd i glwb Llangefni er mwyn chwarae mewn cynghrair uwch.

Ond o fewn dim fe gafodd ei daro'n wael a phrofion yn yr ysbyty yn dangos bod ganddo gyflwr calon cardiomyopathi oedd yn golygu nad oedd y galon yn pwmpio digon o waed o gwmpas y corff.

Eglurodd mewn sgwrs ar raglen 91热爆 Radio Cymru Ar y Marc:

鈥淎chos o鈥檔 i mor ifanc 鈥 18 鈥 o鈥檔 i鈥檔 meddwl fydd o ddim byd mawr, fyddai鈥檔 oc锚. Ond 'nath hynny i gyd newid pan nesh i glywed y doctor yn deud bod fi鈥檔 high risk o sudden death os faswn i wedi cario 'mlaen i chwarae p锚l-droed.

鈥淎deg yna 'nath o gyd newid ac roedd o鈥檔 quite emotional鈥 o'n i ddim yn meddwl faswn i鈥檔 chwarae byth eto. 'Nath hynny effeithio iechyd meddwl fi lot a physical hefyd achos do鈥檔 i ddim yn cael neud dim byd strenuous.鈥

Tom Lockyer a Christian Eriksen

Mae p锚l-droedwyr gyda chyflyrau calon wedi bod yn y newyddion sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys amddiffynnwr Cymru Tom Lockyer.

Fe gafodd ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton yn erbyn Bournemouth yn Uwch-gynghrair Lloegr fis Rhagfyr y llynedd - yr eildro i hynny ddigwydd o fewn saith mis.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tom Lockyer wedi cael gosod diffibriliwr bychan ers ei anffawd. Er ei fod wedi rhoi'r gorau i chwarae p锚l-droed am y tro, dydi o heb wneud penderfyniad terfynol eto

Ac roedd Cai mewn sioc pan gafodd Christian Eriksen ataliad ar y galon mewn g锚m yn Euro 2020.

"Hynna 'nath ddychryn fi hefyd yn gwatshiad yr Euros. Pan 'nath o ddigwydd i Christian Erikesen adeg yna nesh i deimlo 'wow fasa hynny鈥檔 gallu digwydd i fi'.

"Roedd hynny yn un o鈥檙 pwyntiau pan nesh i feddwl rhaid i fi gymryd br锚c o chwaraeon."

Mae Christian Eriksen, ar 么l derbyn triniaeth a chyfnod i ffwrdd o'r g锚m, bellach yn chwarae i Manchester United - y t卯m mae Cai yn ei gefnogi.

Anodd peidio chwarae

Ar adegau fe geisiodd Cai barhau i fod yn rhan o'r g锚m drwy ymuno mewn sesiynau hyfforddi am gyfnodau byr a pheidio gwneud gormod.

Ond gyda phrofion blynyddol yn dangos nad oedd y cyflwr calon wedi gwella roedd yn bryderus a phenderfynodd roi'r gorau iddi.

Meddai: 鈥淩oedd o鈥檔 anodd gweld ffrindiau i gyd yn chwarae a t卯m Bont yn 'neud mor dda a do鈥檔 i methu ymuno.

"Ond yn lwcus, tua dechra' blwyddyn yma, gesh i appointment efo鈥檙 doctor a鈥檙 hapusrwydd yna pan nesh i glywed (fo'n) deud 'ma鈥檙 galon wedi mynd n么l i normal' a bod y tabledi wedi helpu a bod fi鈥檔 cael mynd n么l i fynd i鈥檙 gym a chwarae p锚l-droed!"

Felly fe aeth yn 么l i glwb Bontnewydd ac ailddechrau'n raddol - fel eilydd i'r ail d卯m, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc i'r t卯m cyntaf ddiwedd Ebrill.

Arwr y g锚m

Yna, wrth i'r tymor ddirwyn i ben, fe gyrhaeddodd ei foment fawr.

Rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair 笔锚濒-诲谤辞别诲 Arfordir Gogledd Cymru - Gorllewin, ar 4 Mai. Bontnewydd yn erbyn Bodedern a Cai wedi dod ymlaen fel eilydd yn ei ail g锚m i'r t卯m cyntaf ers ailddechrau chwarae.

Gyda dim ond pum munud yn weddill a鈥檙 sg么r yn 1-1, fe sgoriodd beniad i sicrhau buddugoliaeth.

鈥淵 teimlad yna pan nesh i sgorio'r winner yn y semi-final... oedd o鈥檔 rwbath sbeshal - what dreams are made of," meddai Cai. "Dod yn 么l a sgorio i guro g锚m. Faswn i鈥檔 gallu byw hynna eto ac eto."

A phedwar diwrnod yn ddiweddarach aeth yn ei flaen i helpu ei d卯m guro Gaerwen yn y rownd derfynol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dathlu ar 么l curo Gaerwen 5-3 yn ffeinal Cwpan y Gynghrair ym Mae Cemaes

Mae Cai erbyn hyn yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyflyrau calon.

Oherwydd y sylw sydd wedi codi yn sgil chwaraewyr enwog yn cael trafferthion tebyg, mae'n teimlo bod y gofal i chwaraewyr ar bob lefel wedi gwella ers iddo fo orfod rhoi'r gorau iddi.

Meddai: "Adeg yna doedd 'na ddim lot o glybiau football rownd fama, ar grassroots level eniwe, efo defibrillator na dim byd fel yna.

"Ers Covid dwi鈥檔 teimlo bod petha' wedi gwella ac mae mwy o defibrillators mewn caeau lleol - sy鈥檔 bwysig iawn."