Hyrwyddo Ysgol Gymraeg Llundain ar faes yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Wrth edrych i'r dyfodol mae Ysgol Gymraeg Llundain, ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd, yn apelio ar ysgolion yng Nghymru i greu partneriaeth â nhw.
Fe gafodd yr ysgol ei sefydlu ym 1958 yn Ysgol Hungerford yn Camden ar ôl i grŵp o rieni Cymry Llundain benderfynu cynnig addysg Gymraeg i blant y ddinas.
Mae'r ysgol bellach wedi symud ac mae'r plant yn cael eu haddysg yng nghanolfan gymunedol Hanwell.
Ond maen nhw nawr yn awyddus i ddenu disgyblion a chefnogwyr newydd, ac felly yn chwilio am lysgenhadon i hyrwyddo gwaith yr ysgol.
Yn ôl Glenys Roberts, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol: "Fel llysgenhadon mae ganddon ni gysylltiadau â phobl adnabyddus a 'da ni’n chwilio, ac eisoes wedi cysylltu ag ambell un yn gofyn fedran nhw helpu’r ysgol, hyrwyddo’r ysgol, sgwrsio am yr ysgol wrth gwrs."
'Rhai ddim yn gwybod am ein bodolaeth ni'
Mae gan nifer o wynebau adnabyddus fel Cerys Matthews a Sean Fletcher gysylltiadau â'r ysgol.
Dywed Glenys Roberts: "'Da ni hefyd eisiau denu mwy o gyn-rieni a disgyblion i mewn ac mae ganddon ni nifer o rieni sy’n dal i gysylltu ac yn dal i gefnogi’r ysgol… y bobl hynny i gryfhau ymwybyddiaeth o’r ysgol.
"Mae’n synnu fi weithiau – yn y Steddfod hyd yn oed y rhai sydd dal ddim yn gwybod am ein bodolaeth ni."
Er bod yr ysgol yn wynebu nifer o heriau, mae’r pennaeth Julie Watkins yn dweud ei bod yn edrych ar yr ochr bositif, ac yn chwilio am ddatrysiadau .
"Mae Llundain mor fawr. Mae rhai rhieni yn meddwl os ydyn nhw’n byw yn Llundain, dydyn nhw ddim yn agos i’r ysgol," meddai.
"Ond mae ganddon ni'r Elizabeth Line – mae e mor hawdd – mae’n stopio yn Hanwell sydd bum munud i ffwrdd o’r ysgol.
"Mae ‘na fws sydd yn mynd â chi o orsaf sydd yn stopio tu fas i’r ysgol – mae’n gyfleus iawn.
"Fi’n credu os chi wir eisiau addysg Gymraeg am eich plant fydde chi ddim yn gweld yr heriau - fydde chi’n gweld datrysiadau yn hytrach na phroblemau."
Yn ogystal â chwilio am lysgenhadon, mae’r ysgol hefyd yn apelio ar ysgolion yng Nghymru i gysylltu â nhw er mwyn creu partneriaethau
Y bwriad yw helpu plant Llundain i gael profiad o ysgolion Cymraeg y tu fas i'r ddinas, ond hefyd i roi cipolwg i blant Cymru o'r hyn sy'n digwydd yn y dosbarth yn Ysgol Gymraeg Llundain.
Mae hyn eisoes wedi cychwyn fel arbrawf gydag Ysgol Brynaman, sydd wedi bod yn cydweithio ag Ysgol Gymraeg Llundain.
‘Rhoi Cymru ar y map yn Lloegr’
Mae’r syniadau yn cael croeso mawr.
Dywed Rhys Burleton, sy'n gyn-ddisgybl ond nawr yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fi’n meddwl bod e’n rili bwysig yn enwedig rhoi Cymru a’r iaith Gymraeg ar y map yn Lloegr.
"So mae pobl oedd ddim hyd yn oed yn gwybod bo' pobl yn siarad Cymraeg wedyn yn gallu gweld fod pobl yn siarad Cymraeg, a wedyn hyd yn oed bo' Cymry Cymraeg yn Llundain gyda’r siawns o ddanfon eu plant i siarad Cymraeg a chael addysg drwy’r Gymraeg."
Mae Susan Hartson o Sir Gâr yn wreiddiol ac yn fam i bedwar o blant sydd wedi bod yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Llundain.
"Mae’n rhaid datblygu fel chi’n rhoi’r gwasanaeth hyn i bobl yn Llundain, i bobl falle sy’n mynd i symud nôl i Gymru achos maen nhw wedi neud cymaint o gyfraniad i Gymru pan maen nhw’n dod nôl a chi’n gallu gweld 'na gyda chyn-ddisgyblion felly mae e’n bwysig iawn trial datblygu fel maen nhw’n rhoi’r cyfraniad," esboniodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023