91热爆

Dynes gafodd bum str么c a gwaedlif ar yr ymennydd yn nofio Llyn Padarn

Heather Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Hughes cyn cychwyn ar ei thaith yn y llyn yn Llanberis

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o F么n ddechreuodd nofio gwyllt ar 么l cael gwaedlif ar yr ymennydd a pum str么c wedi nofio hyd Llyn Padarn i gasglu arian at achos da.

Fe gafodd Heather Hughes, o Lanfairpwll, ei tharo鈥檔 ddifrifol wael bum mlynedd yn 么l gan dreulio wythnosau yn ysbyty arbenigol Walton, Lerpwl, ac Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Ond wedi i鈥檞 ffrind ei pherswadio i ddechrau nofio gwyllt fel rhan o鈥檌 hadferiad mae wedi bod yn mynd yn gyson drwy鈥檙 flwyddyn - a nawr wedi llwyddo i nofio am dros ddwyawr yn y llyn ger Llanberis.

"Do鈥檔 i erioed wedi sylweddoli pa mor hir ydi Llyn Padarn,鈥 meddai.

"Dwi ddim yn athlete, felly i 'neud hynny roedd o鈥檔 her i fi. I gael pobl pen arall yn cheerio pan nesh i gyrraedd, roedd o鈥檔 emosiynol iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Heather Hughes ei bod yn nerfus iawn ar fore'r sialens cyn iddi ddechrau nofio

Roedd Ms Hughes, sy鈥檔 56 oed, yn gadael Venue Cymru yn Llandudno ar 15 Ebrill 2019 pan gafodd boen dychrynllyd yn ei phen.

"Chesh i ddim rhybudd - dim byd o gwbl," meddai. "A nesh i dd'eud yn syth 鈥榙wi鈥檔 meddwl mod i 'di cael brain haemorrhage鈥.&辩耻辞迟;

Aeth i鈥檞 gwely gyda thabledi lladd poen cyn cael ei pherswadio i fynd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

O fewn dim roedd hi鈥檔 cael ei gyrru ar frys i Lerpwl lle achubodd t卯m meddygol Walton ei bywyd.

Cafodd wybod bod ganddi hydrocephalus, pan mae hylif yn casglu ar yr ymennydd, a chael triniaeth cyn dychwelyd i F么n pum wythnos yn ddiweddarach.

Nofio yn hwb i iechyd meddwl

O fewn wythnosau roedd hi'n 么l yn Ysbyty Gwynedd ar 么l cael pedwar str么c.

Fe gafodd un arall yn 2021 ac roedd y cyfan yn effeithio鈥檌 hiechyd corfforol a meddyliol.

"Roedd 'na ffrind wedi gweld 'mod i angen help a dyma hi鈥檔 dweud 鈥榯i鈥檔 dod i nofio鈥,鈥 meddai.

"Dwi鈥檔 cofio mynd fewn i鈥檙 m么r am y tro cynta鈥 a gweiddi 鈥榦 ma鈥檔 oer鈥... a dyma fy ffrind yn d'eud 'gwranda, ti wedi geni tri o blant jest anadla fewn ac allan trwy dy geg a fyddi di鈥檔 iawn'.

"Roedd hi鈥檔 gwybod y bydda fo鈥檔 llesol. Ti鈥檔 rhoi dy ben o dan y d诺r a ti鈥檔 cael yr endorphins hit yma. Dwi wrth fy modd.

"Ma' 'ng诺r yn gwybod os dwi heb fod am ychydig o ddyddiau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Hughes - gyda'i chwaer Nici Hughes yn y caiac er mwyn diogelwch - yn mynd i gyfeiriad Llanberis

Bellach mae hi鈥檔 mynd pedair gwaith yr wythnos, fel arfer i draethau dwyrain M么n, ac yn nofio drwy鈥檙 flwyddyn heb wisg cadw鈥檔 gynnes.

Ar 么l nofio lled Llyn Padarn yn ddiweddar fe benderfynodd nofio鈥檙 3.2 cilomedr o bont Penllyn, Brynrefail, i ben arall y llyn yn Llanberis i gasglu arian i elusen SHINE.

Dros yr haf roedd hi鈥檔 ymarfer tra ar ei gwyliau yn Corfu gan gynyddu ei hamser yn y pwll nofio bob dydd er mwyn cyrraedd ei tharged.

Ond mae nofio mewn pwll ar un o ynysoedd Groeg yn yr haf yn wahanol i lyn dwfn yn Nyffryn Peris wrth i鈥檙 hydref agos谩u.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Hughes gyda'i theulu ar 么l cwblhau'r sialens. Hyd yma mae wedi casglu 拢1,500 i elusen Shine

"Mae d诺r y m么r yn ysgafnach oherwydd yr halen - a do鈥檔 i鈥檓 yn gwybod hynny tan i rywun dd'eud wrtha i," meddai.

"Roedd y llyn yn choppy pan nesh i gyrraedd hanner ffordd a鈥檙 gwynt yn erbyn fi. Ar adegau do鈥檔 i鈥檓 yn meddwl mod i'n symud o gwbl.

"Pan nesh i gerdded allan 'nath fy nghoesau i jest fynd - roeddan nhw fel jeli! Ond nesh i 'neud o."

Pynciau cysylltiedig