91热爆

Cyhuddo dynes, 41, o lofruddio plentyn 6 oed 'anhygoel'

Bu farw Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Cwm Du Close ddydd IauFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Alexander Zurawski, 6, ei ddisgrifio gan ei deulu fel plentyn "caredig iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i ddynes fynd o flaen ynadon Abertawe ddydd Llun wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth plentyn yn y ddinas.

Bu farw Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ddydd Iau.

Mae Karolina Zurawska, 41, wedi鈥檌 chyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad 芒'i farwolaeth, meddai Heddlu'r De nos Sul.

Mae hi hefyd wedi鈥檌 chyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad 芒 digwyddiad yn ymwneud 芒 dyn 67 oed yn gynharach ar yr un dyddiad.

Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad hwn.

Plentyn 'anhygoel'

Mae teulu Alexander wedi dweud ei fod yn "blentyn caredig iawn" a'i fod "wrth ei fodd yn chwarae gyda鈥檌 chwaer fach a鈥檌 gi, Daisy".

鈥淩oedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg," meddai'r deyrnged.

鈥淩oedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.

鈥淩oedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau.

鈥淩oedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai鈥檔 aml yn cywiro ei rieni gyda鈥檜 Saesneg os oedden nhw鈥檔 cael geiriau鈥檔 anghywir.

鈥淩oedd yn anhygoel.鈥

Mae'r teulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith ac wedi gofyn am breifatrwydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glos Cwm Du tua 20:30 nos Iau

Dywedodd Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd y Garreg Wen, ble'r oedd Alexander yn ddisgybl: "Rydym wedi ein syfrdanu o glywed am farwolaeth drasig Alexander."

Dywedodd ei fod yn "fachgen bach hoffus" a "phenderfynol".

"Roedd yn fachgen hynod annwyl a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei adnabod. Bydd colled fawr ar ei 么l.

"Bydd cymorth priodol ar gael i blant, staff a phawb yn ein cymuned ysgol sydd wedi'u heffeithio.

"Gofynnwn i breifatrwydd cymuned ein hysgol gael ei barchu ar yr amser anodd hwn."

Y gymuned wedi bod yn 'rhagorol'

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, o Heddlu'r De, fod y digwyddiad wedi bod yn "sioc aruthrol i鈥檙 gymuned leol".

鈥淢ae鈥檙 gymuned leol wedi bod yn rhagorol yn eu cefnogaeth i鈥檔 hymchwiliad, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod trawmatig," meddai.

鈥淏ydd presenoldeb yr heddlu yn cael ei gadw yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd.

鈥淢ae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander ar yr amser anodd hwn.鈥