91热爆

Pryder busnesau wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau am ddwy flynedd

Llun o'r awyr o Amgueddfa Lechi Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn cau tan fis Hydref 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder y bydd cau un o brif amgueddfeydd Cymru am ddwy flynedd yn cael effaith ar rai o fusnesau Llanberis.

Ddydd Sul bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn cau tan fis Hydref 2026 ar gyfer gwaith adnewyddu ac ailddatblygu.

Mae鈥檙 amgueddfa, sy'n adrodd hanes diwydiant llechi Gwynedd, yn denu rhyw 150,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Nod y gwaith, a fydd yn costio 拢21 miliwn, yw sicrhau鈥檙 adeilad i鈥檙 dyfodol, gwella profiad ymwelwyr a denu mwy o bobl i鈥檙 amgueddfa tu allan i gyfnod prysur yr haf.

Disgrifiad,

Yn 2021 fe gafodd ardal y llechi Statws Treftadaeth y Byd Unesco

Ers tair blynedd mae ardal llechi Gwynedd wedi bod ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO.

Mae鈥檔 statws sydd gan 900 o lefydd ledled y byd - gan gynnwys Wal Fawr China a鈥檙 Taj Mahal yn India.

Yr ardaloedd penodol yn ardal llechi Gwynedd yw Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn a Dinorwig, sef lleoliad Amgueddfa Lechi Cymru.

Mae'r amgueddfa yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac felly bydd ei cholli am gyfnod mor hir yn ergyd i fusnesau Llanberis yn 么l Aaron Gethin, sy'n 32 oed ac yn rheolwr un o dafarndai'r dre.

"Mi fydd yna effaith ar ein busnes ni oherwydd mae cau am ddau Basg a haf yn gyfnod hir ac yn sicr dwi鈥檔 rhagweld llai o deuluoedd yn dod i aros," meddai.

"Mae rhan fwya鈥檙 teuluoedd sy鈥檔 dod i aros gyda ni yn dod er mwyn mynd i鈥檙 amgueddfa a defnyddio鈥檙 tr锚n sy鈥檔 mynd o amgylch y llyn."

"Nid pawb sy鈥檔 gallu cerdded y mynyddoedd - felly maen nhw鈥檔 atyniadau pwysig. Mae twristiaeth mor bwysig i鈥檙 ardal, felly ni yn pryderu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aaron Gethin yn gweithio yn Llanberis

Ond yn 么l pennaeth yr amgueddfa ers dros dair blynedd, Elen Roberts, mae angen gwneud gwaith atgyweirio i sicrhau dyfodol yr amgueddfa.

鈥淢ae鈥檔 amser cyffrous iawn i ni. Mae鈥檔 25 mlynedd ers ein buddsoddiad sylweddol diwethaf. Mae鈥檙 prif adeiladau o鈥檙 1870au ac maen nhw鈥檔 dechrau dangos ei oed, felly mae angen cwblhau gwaith cadwraeth.

"Mi fydd yr hyn sy鈥檔 digwydd yn diogelu鈥檙 amgueddfa am flynyddoedd i ddod tra hefyd yn sicrhau ein bod ni鈥檔 atyniad o safon byd-eang,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elen Roberts sy'n goruchwylio'r gwaith ailddatblygu

Mae dros 8,000 o eitemau wedi cael eu symud o'r amgueddfa i gartref newydd dros dro er mwyn galluogi鈥檙 gwaith adnewyddu i fynd yn ei flaen.

Dan y cynlluniau mi fydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu hadnewyddu.

Bydd canolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi yn cael eu datblygu.

Yn ogystal bydd gwelliant i'r ffordd y mae straeon hanesyddol yr amgueddfa yn cael eu rhannu a bydd gofodau鈥檔 cael eu huwchraddio er mwyn galluogi鈥檙 amgueddfa i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd dros 8,000 o eitemau yn cael eu symud o'r amgueddfa

Un o brif atyniadau鈥檙 amgueddfa yw鈥檙 cyfle i weld chwarelwyr wrth eu crefft.

Andrew Jones yw鈥檙 chweched genhedlaeth o鈥檌 deulu i weithio yn y chwareli.

Mae wedi gweithio yn y diwydiant ers 1984, gan ddechrau ar ei waith yn yr amgueddfa wyth mlynedd yn 么l.

鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn bod y diwydiant llechi yn parhau. Os ydyn ni鈥檔 colli鈥檙 chwareli 'da ni鈥檔 colli mwy na鈥檙 gwaith yn unig, byddwn ni鈥檔 colli鈥檔 cymunedau ni hefyd.

"Heb y gymuned bydd pawb yn symud o yma ac mi fydd pethau 'di newid yn llwyr mewn dim,鈥 meddai.

Ychwanegodd: 鈥淒wi wedi bod yn lwcus iawn cael y cyfle i ddangos fy sgiliau i bobl o bedwar ban byd.

"Mae鈥檔 gr锚t cael hwyl gyda nhw a dangos bod ein chwareli ni ymysg y gorau yn y byd. Dwi鈥檔 edrych ymlaen at fod yma eto ar 么l i鈥檙 amgueddfa ail agor.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew Jones wedi gweithio fel chwarelwr ers dros 40 o flynyddoedd

Y nod yw ailagor yr amgueddfa ym mis Hydref 2026. Yn y cyfamser mi fydd rhai o arddangosfeydd yr amgueddfa yn teithio o amgylch rhai o gymunedau Cymru.