91Èȱ¬

Ateb y Galw: Carrie Cook

Carrie CookFfynhonnell y llun, Merched Becca
Disgrifiad o’r llun,

Carrie, sy'n chwarae sacsoffon yn y band Merched Becca

  • Cyhoeddwyd

Tro Carrie Cook o'r band newydd Merched Becca yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon.

Mae Merched Becca yn fand ifanc o ardal Llanelli sydd wedi dod ar y sîn dros y flwyddyn diwethaf. Maent wedi rhyddhau ei sengl cyntaf, ‘Siarad Fel Fi’ yn ddiweddar.

Amy, Cerys, Carrie, Lawson, Evan, Jaque a Flinn yw aelodau Merched Becca. A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae'r band i gyd â lefelau gwahanol o ran defnyddio'r Gymraeg ond maen nhw'n falch iawn o fod yn gallu perfformio a chyfansoddi caneuon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Carrie, sy'n chwarae'r sacsoffon yn y band: "Rydym wedi ymroi i fod yn rhan o’r sîn Gymraeg yn ein hardal, aethon ni i gyd i ysgolion Saesneg eu hiaith ond rydym yn angerddol iawn am ganu yn y Gymraeg."

Dyma ddod i adnabod Carrie ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Roedd derbyn fy ffidil gyntaf yn ifanc wedi tanio angerdd am gerddoriaeth. Mae'r cyffro yna dal yn glir yn fy nghof, wrth imi ddal yr offeryn a thynnu’r bwa ar draws y tannau am y tro cyntaf erioed.

Roedd yn teimlo fel darganfod rhan newydd a chyffrous o fy hun.

Mae’r atgof o’r diwrnod wedi aros gyda fi, gan adlewyrchu’r effaith y mae cerddoriaeth wedi’i chael ar fy mywyd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llangrannog yw fy hoff le yng Nghymru, oherwydd yr atgofion o antur, hwyl, a chyfeillgarwch sydd yno.

Cynigiodd gyfle i fi ddatgysylltu o fywyd bob dydd a mwynhau gweithgareddau awyr agored.

Roedd y golygfeydd anhygoel ger yr arfordir yn cryfhau fy nghysylltiad â natur.

Roedd straeon campfire a gwthio fy hun allan o fy comfort zone yn ei wneud yn brofiad bythgofiadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carrie wrth ei bodd yn Llangrannog

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd cymryd rhan yn sioe Brwydr y Bandiau Sŵn Sir Gâr yn ddigwyddiad a newidiodd fy mywyd i.

Roedd yn ganlyniad ymroddiad ac ymdrech gan holl aelodau’r band, gyda’r cyffro o berfformio o flaen cynulleidfa fyw yn atgof wych.

Roedd yr adrenalin a’r cysylltiad rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr yn gwneud y profiad yn wirioneddol unigryw.

Cryfhaodd y noson fy angerdd am berfformio fel band, a gwnaeth atgofion y byddaf bob amser yn eu trysori.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hyblyg, llawn cymhelliant ac empathetig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

I fi mae ymarferion band Merched Becca bob amser yn ddigwyddiadau llawen, yn llawn chwerthin a gwenu.

Mae bod ymhlith ffrindiau sydd â diddordebau tebyg yn creu awyrgylch arbennig lle mae digonedd o inside Âáô³¦²õ.

Hyd yn oed pan nad yw syniadau newydd yn mynd fel oedden ni'n gobeithio, mae’n creu eiliadau doniol sy'n ein hatgoffa i fwynhau'r broses.

Ffynhonnell y llun, Merched Becca
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r band yn falch iawn o allu perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yn ystod perfformiad cystadleuol yn Neuadd Symffoni Birmingham oedd fy eiliad fwyaf embarrassing pan oedd fy obo yn gwichian yn uchel ar ganol yr unawd.

Er gwaethaf wythnosau o ymarfer, roedd y gwich yn atseinio trwy'r neuadd gyfan.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y tro diwethaf i fi grio oedd yn ±è°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð fideo cerddoriaeth Merched Becca ar gyfer ein cân newydd, ‘Siarad Fel Fi’ yn yr Egin gyda Shwmae Sir Gâr a Menter Cwm Gwendraeth Elli.

Roedd yn foment emosiynol i fi, gan fy mod yn gwybod ein bod ni i gyd wedi rhoi ein calonnau a’n heneidiau i mewn i’r prosiect.

Roedd gweld y cynnyrch terfynol ar y sgrin fawr yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bell roedden ni wedi dod fel grŵp.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Yn ystod ymarfer cerddoriaeth, dwi'n tueddu i anwybyddu'r cyweirnod cyn chwarae, sy'n effeithio ar fy mherfformiad a'n arwain at faglu a gwallau diangen.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

West Side Story yw fy hoff ffilm oherwydd y straeon pwerus, cerddoriaeth ac emosiynau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Byddwn wrth fy modd yn cael diod gyda Freddie Mercury oherwydd ei gerddoriaeth anhygoel a'i greadigrwydd unigryw.

Byddai ei straeon am gerddoriaeth Queen a chaneuon eiconig fel Bohemian Rhapsody yn fythgofiadwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fase Carrie wrth ei bodd yn cael cwrdd â Freddie Mercury

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Nid oes llawer o bobl yn gwybod fy mod i'n arfer gwneud Highland Dancing cystadleuol, a ddechreuais yn ifanc a dod yn angerddol amdano yn gyflym.

Cefais fy swyno gan y cymysgedd o athletiaeth, celf, a diwylliant yn ystod fy magwraeth cynnar yn Yr Alban.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ar fy niwrnod olaf ar y ddaear, byddaf yn treulio'r diwrnod wedi'i amgylchynu gan bobl dwi'n caru. Gan ddechrau gyda brecwast arbennig yn llawn chwerthin, sgyrsiau a sudd oren.

Rhannu straeon, hel atgofion am hoff eiliadau, a mynegi diolchgarwch i'n gilydd.

Gweithgareddau awyr agored fel teithiau cerdded neu fwynhau'r haul mewn parc neu draeth.

Wedi'i ddilyn gan ginio blasus yn Wetherspoons, yn sgwrsio am obeithion a breuddwydion.

Diwedd y dydd o dan y sêr, gan fyfyrio ar harddwch bywyd a'r atgofion ni wedi'u creu gyda'n gilydd dros y blynyddoedd.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae llun o fy nhad yn dal lle arbennig yn fy nghalon.

Mae'r cwlwm cryf a'r gwersi gwerthfawr ddysgodd e i fi yn cael eu hadlewyrchu yn y llun.

Ar ôl ei farwolaeth, daeth y llun hyd yn oed yn fwy pwysig, gan gynnig cysur ac atgoffa fi o'i gariad a'i gefnogaeth.

Mae’n ysbrydoli fi i barhau â’i etifeddiaeth, gan arwain fi wrth wynebu heriau, trin eraill â charedigrwydd, a dilyn breuddwydion.

Mae'r llun hwn yn rhan o bwy ydw i, wedi'i siapio gan ei ddylanwad a'i gariad.

Ffynhonnell y llun, Carrie Cook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carrie yn trysori'r llun gyda'i diweddar thad

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Byddwn yn dewis Emma Watson.

Dwi’n edmygu ei sgiliau actio, yn ogystal â’i hymrwymiad i achosion pwysig fel cydraddoldeb ac addysg.

Byddai treulio diwrnod fel Emma yn rhoi persbectif unigryw i fi ar ei ffordd o fyw a’i gwaith, fel mynychu ei digwyddiadau Cenhedloedd Unedig sy’n canolbwyntio ar hawliau menywod.

Byddai gweld ei chydbwysedd rhwng gyrfa a gwerthoedd yn ysbrydoledig, a byddai cael diwrnod yn ei hesgidiau hi, o ffilmio i ymddangosiadau cyhoeddus, yn hynod ddiddorol.