91热爆

Herio ymgeiswyr am eu barn ar gynllun gorsaf radar

DysglauFfynhonnell y llun, US Space Force
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r math o ddysglau a fyddai'n cael eu gosod ar dir Barics Cawdor

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn erbyn cynllun i osod radar i'r gofod yn Sir Benfro wedi galw ar ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol i ddatgan yn glir os ydyn nhw'n cefnogi'r cynllun ai peidio.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn ydy codi 27 o ddysglau radar, 20 metr o uchder a 15 metr o led, ar safle Barics Cawdor ym Mreudeth.

Mae'r safle'n agos iawn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae cynllun radar DARC yn rhan o gytundeb diogelwch AUKUS gyda llywodraethau'r Unol Daleithiau ac Awstralia.

Dywedodd Jim Scott, aelod o'r ymgyrch, wrth gyfarfod gorlawn yn Neuadd Goffa Solfach fod y gymuned wedi llwyddo i wrthwynebu cynlluniau blaenorol ym 1990/91 i godi safle radar ar faes awyr Tyddewi, ac y byddai'r gymuned 鈥渦nwaith eto yn ymladd y cynllun hwn鈥.

Fe honnodd Mr Scott y byddai 100 o lor茂au yn gorfod teithio drwy Niwgwl bob dydd i adeiladu'r safle, ac roedd yn "gynllun isadeiledd anferth".

Mae 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn DARC.

'Effaith negyddol' at letygarwch

Ffynhonnell y llun, PARC v DARC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwrthwynebwyr i'r cynllun yn y cyfarfod cyhoeddus yn Solfach nos Iau

Gofynnodd Roy Jones, un o sylfaenwyr ymgyrch PARC, a oedd "pobl eisiau safle milwrol Americanaidd mewn lle cysegredig".

Dywedodd Emma Bowen, rheolwr cyffredinol y Retreats Group, bod sylfaenydd y cwmni, Keith Griffiths, yn gwrthwynebu cynllun DARC.

Mae'r cwmni'n rhedeg tri gwesty moethus yn lleol, ac mae Mr Griffiths wedi buddsoddi 拢20m yn yr ardal.

Yn 么l Ms Bowen fe fyddai DARC yn cael "effaith negyddol" ar y busnesau ac fe fynegodd amheuaeth a fyddai ymwelwyr am ddod i ardal ble roedd yna "27 o ddysglau radar".

Ffynhonnell y llun, PARC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn 么l ymgyrchwyr PARC

Clywodd y cyfarfod gan arbenigwyr iechyd hefyd.

Yn 么l yr Athro Paul Heroux byddai "effeithiau iechyd yn anochel" yn sgil y math o ymbelydredd sy'n cael ei gynhyrchu gan radar.

Mae Michael Peleg wedi astudio effeithiau iechyd cynllun yr Iron Dome sy'n amddiffyn Israel.

Dywedodd bod 46 o filwyr IDF wedi datblygu mathau o ganser ar 么l gweithio'n agos at safleoedd radar yr Iron Dome.

Yn 么l Mr Peleg, roedd yna dystiolaeth bod ymbelydredd sy'n cael ei gynhyrchu gan amledd radio yn medru effeithio ar gelloedd dynol ac achosi canser.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fyddai'r dysglau'n cael eu gosod ar dir Barics Cawdor

Dywedodd Michael Davies o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ei fod yn bryderus y byddai'r radar yn cael effaith niweidiol ar ddwy rywogaeth bwysig o adar 鈥 Adar Drycin Manaw a'r Fran Goesgoch.

Yn 么l Mr Davies, fe allai goleuadau ym Marics Cawdor "ddrysu" adar gan beri iddyn nhw fynd i drafferthion ar draeth Niwgwl gerllaw.

Mae yna 350,000 p芒r o Adar Drycin Manaw ar Ynys Sgomer.

Fe apeliodd Mr Davies ar y cyfarfod "na ddylem ni ganiat谩u i'r cais hwn ddatblygu".

Fe fydd y cais cynllunio terfynol yn cael ei ystyried gan Gyngor Sir Penfro, ac fel rhan o hwnnw fe fydd angen paratoi astudiaeth ar effeithiau amgylcheddol y datblygiad.