91热爆

Clydach: Dyn yn cyfaddef dynladdiad menyw

Wendy BuckneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Wendy Buckney yn cadw ceffylau ac wedi sefydlu Canolfan Farchogaeth Pen-y-Fedw, Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed o Glydach wedi cyfaddef dynladdiad menyw 71 oed, ond mae鈥檔 gwadu ei llofruddio.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher fe blediodd Brian Whitelock yn euog i ddynladdiad Wendy Buckney.

Cafodd corff Ms Buckney, oedd wedi ymddeol, ei ddarganfod y tu allan i'w chartref yng Nghlydach, Abertawe ym mis Awst 2022.

Mae Mr Whitelock wedi ei gyhuddo o un achos o lofruddiaeth, ac un cyhuddiad o ddynladdiad.

Plediodd yn ddieuog i lofruddiaeth Ms Buckney.

Gohirio'r achos

Dywedodd yr erlyniad, Michael Jones KC, wrth y llys nad oedd yn derbyn y ple o ddynladdiad, ac mae disgwyl i achos llys ddechrau ym mis Tachwedd.

Bydd gwrandawiad adolygu cyn yr achos yn cael ei gynnal ar 5 Gorffennaf, gyda鈥檙 achos ei hun i ddechrau ar 12 Tachwedd.

Dywedodd y Barnwr Martin Griffiths wrth y llys y bydd hi鈥檔 "siom fawr i lawer" bod yr achos wedi鈥檌 ohirio, ond fod angen hynny oherwydd y newid ple.

Mae Mr Whitelock yn parhau yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig