Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Awstralia v Cymru: Gatland yn dewis tîm ifanc i wynebu'r Wallabies
Fe fydd canolwr Caerdydd, Ben Thomas yn dechrau yn safle'r maswr i Gymru am y tro cyntaf yn y gêm brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Bydd asgellwr 20 oed Caerloyw, Josh Hathaway yn ennill ei gap cyntaf, a bydd prop Caerfaddon, Archie Griffin yn dechrau gêm i'w wlad am y tro cyntaf.
Y bachwr Dewi Lake fydd capten Cymru, tra bod disgwyl i Aaron Wainwright ennill ei 50fed cap yn erbyn y Wallabies yn Sydney.
Mae Awstralia wedi dewis tîm eithaf dibrofiad ar gyfer y prawf cyntaf, gyda'r blaenasgellwr Liam Wright wedi ei ddewis fel capten.
Bydd sylwebaeth fyw o'r gêm brawf ar 91Èȱ¬ Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 10.30 fore Sadwrn.
Bydd Thomas, 25, yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf ddydd Sadwrn wrth iddo gymryd lle Sam Costelow fel maswr.
Dyw Thomas ond wedi dechrau un gêm fel maswr i'w glwb y tymor hwn, gan chwarae gan amlaf fel canolwr.
Ellis Bevan, mewnwr Caerdydd, fydd yn dechrau yn y crys rhif naw wedi iddo ennill ei gap cyntaf yn y golled o 41-13 yn erbyn De Affrica fis diwethaf.
Liam Williams fydd yn dechrau fel cefnwr gyda Hathaway a Rio Dyer wedi eu dewis ar yr esgyll.
Cafodd Hathaway, gafodd ei eni yn Aberystwyth, ei gynnwys yn y garfan hyfforddi ar gyfer gemau prawf yr haf ond doedd o ddim ar gael i chwarae yn y golled i'r Springboks gan ei fod yn chwarae i glwb yn Lloegr.
Mae o wedi cynrychioli timau dan-20 Cymru a Lloegr, ond mae Cymru yn awyddus i'w berswadio i wisgo'r crys coch ar ôl i Immanuel Feyi-Waboso, oedd mewn sefyllfa debyg, benderfynu cynrychioli Lloegr.
Mason Grady ac Owen Watkin fydd y canolwyr, gyda Nick Tompkins wedi ei gynnwys ar y fainc.
Fe fydd y prop pen-tynn Archie Griffin, gafodd ei eni yn Sydney, yn dechrau gêm brawf am y tro cyntaf, tra bod Christ Tshiunza wedi ei ddewis yn yr ail reng gyda Dafydd Jenkins.
Aaron Wainwright fydd yn dechrau yn safle'r wythwr, ac mae'n un o dri - ynghyd â Liam Williams a Gareth Thomas - wnaeth chwarae yn y fuddugoliaeth o 40-6 yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd y llynedd.
Fe fydd Dillon Lewis a Ben Carter yn methu'r gêm oherwydd anafiadau.
Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi 91Èȱ¬ Cymru, Cennydd Davies
Mae’n dipyn o stori o ran Josh Hathaway - gwr yn hanu o Aberystwyth ac oedd wedi’i ddatblygu yn system ieuenctid Cymru - ond oedd y llynedd yn cynrychioli tîm dan-20 Lloegr yn erbyn Cymru ym Mae Colwyn ag yntau yn ei chwarae ei rygbi yng Nghaerloyw.
Mae ei ddyrchafiad i’r tîm cenedlaethol wedi bod yn ddramatig ac annisgwyl ond wedi Immanuel Feyi Waboso benderfynu dewis Lloegr yn hytrach na Chymru cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, roedd 'na deimlad mae’n siŵr yng nghefn meddwl Warren Gatland i sicrhau nad oedd hanes yn ail adrodd ei hun.
Ar wahân i Hathaway’n ennill ei gap cyntaf, y prif bennawd yw cynnwys Ben Thomas o Gaerdydd fel maswr.
Does dim dwywaith fod Thomas yn chwaraewr talentog a chreadigol, ond mi fydd hi’n dipyn o fedydd tan i rhywun fuodd yn y crys rhif deg unwaith yn unig y llynedd.
Y tro diwethaf i’r ddau dîm yma gyfarfod cafodd y Wallabies ei sgubo o’r neilltu wrth I Gymru daro deugain yng Nghwpan y Byd yn Lyon, ond er bod Awstralia wedi cyrraedd y dyfnderoedd o dan Eddie Jones, fydd tîm o dan hyfforddiant Joe Schmidt yn debygol o fod yn dalcen tipyn anoddach.
Mae 'na bwysau ar Gymru a Gatland heb yr un fuddugoliaeth ers Hydref y llynedd, ac er mai adeiladu at y dyfodol yw’r thema cyson does dim argoel yn bresennol o unrhyw gynnydd ar waith!
Mae Cymru wedi colli saith gêm yn olynol ers trechu Georgia yng Nghwpan y Byd, a heb ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia ers 1969.
Joe Schmidt yw prif hyfforddwr Awstralia erbyn hyn, ar ôl i Eddie Jones adael y rôl.
Mae'r tîm cartref wedi dewis tîm eithaf dibrofiad ar gyfer y prawf cyntaf hefyd, gyda'r canolwr Josh Flook a'r clo Jeremy Williams i ennill eu capiau cyntaf.
Dywedodd Warren Gatland fod y paratoadau ar gyfer y gêm wedi mynd yn dda, a'u bod yn edrych ymlaen at yr her.
Y timau yn llawn
Cymru: Liam Williams; Josh Hathaway, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer; Ben Thomas, Ellis Bevan; Gareth Thomas, Dewi Lake (capten), Archie Griffin, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Harri O'Connor, Cory Hill, James Botham, Kieran Hardy, Sam Costelow, Nick Tompkins.
Awstralia: Tom Wright; Andrew Kellaway, Josh Flook, Hunter Paisami, Filipo Daugunu; Noah Lolesio, Jake Gordon; James Slipper, Matt Faessler, Taniela Tupou, Jeremy Williams, Lukhan Salakaia-Loto, Liam Wright (capten), Fraser McReight, Rob Valetini.
Eilyddion: Billy Pollard, Isaac Kailea, Allan Alaalatoa, Angus Blyth, Charlie Cale, Tate McDermott, Tom Lynagh, Dylan Pietsch.