91热爆

Wyn Lodwick, 'Y Dyn Jazz', wedi marw yn 97 oed

Wyn Lodwick
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor jazz adnabyddus o Lanelli, Wyn Lodwick wedi marw yn 97 oed.

Yn ystod gyrfa lwyddiannus a ddaeth 芒 bri iddo ar draws y byd, fe wnaeth gyfarfod nifer o enwogion cerddoriaeth jazz, gan gynnwys Louis Armstrong.

Roedd yn chwarae'r clarin茅t a'r piano, ac am chwarter canrif fe berfformiodd sawl gwaith y flwyddyn gyda'r enwog Harlem Blues and Jazz Band.

Roedd yn gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Cymru ac yn rhan o sefydlu G诺yl Jazz Cymru a G诺yl Jazz Aberhonddu.

Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016 pan gafodd ei anrhydeddu 芒'r wisg werdd am ei gyfraniad i'r byd cerddoriaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Wyn Lodwick, a oedd yn cael ei nabod fel 'Y Dyn Jazz', yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r clarin茅t

Un o ardal Pwll, Llanelli, oedd y cerddor a ddaeth yn adnabyddus i bawb fel 'Y Dyn Jazz'.

Fe wasanaethodd fel technegydd yn y Llynges Frenhinol cyn sefydlu clwb jazz yn Llanelli, yn 1950, gan gynnal nosweithiau yng ngwestai'r Dock, Melbourne, The White Hart a Stepney Hotel.

Daeth yn wyneb adnabyddus ar y teledu gan deithio'r byd, ond roedd hefyd yn perfformio'n gyson yn Theatr Elli yn ei dref enedigol.

Fe wnaeth osod tonau a chaneuon Cymraeg a Chymreig i steil jazz a darlithio'n helaeth ar hanes ac ystyr jazz.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Wyn Lodwick gyfarfod ag un o gewri'r byd jazz, Louis Armstrong

Daeth ei gyfaill, y newyddiadurwr Wyn Thomas, i gysylltiad ag ef yn 1974 pan roedd angen rhaglenni cerddorol arbenigol ar gyfer gorsaf Sain Abertawe.

Fe gydweithiodd y ddau wedyn yn yr 1980au pan chwaraeodd Wyn Lodwick a'i fand gerddoriaeth jazz fel rhan o raglen Y Byd Yn Ei Le ar HTV.

"Oedd o'n credu mor gryf mewn jazz ac yn gweld rhyw fath o gysylltiad Cymreig efo jazz," dywedodd wrth gloriannu ei gyfraniad ar raglen y Post Prynhawn.

"Ar ben hynny oedd o'n gymeriad a hanner... yr hwyl oeddan ni'n ei gael.

'Gwneud jazz yn berthnasol'

"Oeddan nhw'n dod 芒 jazz yn fyw ac oedd o'n rhan amlwg o lwyddiant y rhaglen honno ac mi aeth o ymlaen i fod yn enwog trwy Gymru oherwydd hynny.

"Oedd o'n rhan o glwb bychan iawn o Gymry oedd yn ymwneud 芒'r math yna o gerddoriaeth.

"Ei lwyddiant mawr o oedd dod 芒 jazz yn berthnasol i gynulleidfa Gymraeg."