Gyrrwr yn pledio'n euog i achosi marwolaeth mam ifanc o Bwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 51 oed o Abertawe wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth mam ifanc o Bwllheli drwy yrru'n beryglus yng Ngwynedd y llynedd.
Bu farw Emma Louise Morris, oedd yn fam i ddau o blant, yn dilyn gwrthdrawiad pedwar cerbyd ar ffordd osgoi'r Felinheli ar 3 Ebrill 2023.
Mae barnwr yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug wedi rhybuddio Jacqueline Mwila, o Abertawe, ei bod yn wynebu cyfnod o garchar pan fydd yn cael ei dedfrydu.
Fe blediodd yn euog hefyd i achosi niwed difrifol i James Walsh trwy yrru ei char Audi yn beryglus ar y ffordd ger Bangor.
Fe gafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth tra bod y gwasanaeth prawf yn paratoi adroddiadau.
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
Wrth ohirio'r achos fe ddywedodd y Barnwr Nicola Saffman bod "dedfryd o garchar yn anochel" ac y dylai Mwila ddod i'r llys "yn barod ar gyfer dedfryd o'r fath".
Aeth ymlaen i ddiolch i deulu a ffrindiau Ms Morris a'r bobl a gafodd eu hanafu am fod "mor urddasol yn ystod y gwrandawiad".
"Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant gyda'r teulu," meddai.
"Fel cymuned, fe wnaeth y digwyddiad ofnadwy yma effeithio'n fawr arnon ni i gyd."
Dywedodd cyfreithiwr y diffynnydd, Richard Dawson bod yr achos yn un "drasig gyda chanlyniadau catastroffig", gan hefyd gydymdeimlo gydag anwyliaid Ms Morris.
Doedd dim rhagor o fanylion am y gwrthdrawiad yn y gwrandawiad ond dywedodd Heddlu'r Gogledd ar y pryd fod pedwar cerbyd yn rhan ohono - Audi A3, BMW cyfres 1, Peugeot 208 a Skoda Octavia.
Bu'n rhaid cludo bachgen pedair oed i Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl, ac fe gafodd dynes ei chludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke-on-Trent am driniaeth.
Cafodd dau berson arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gydag anafiadau difrifol.