91热爆

Argaeau eiconig Cwm Elan yn troi'n 120 oed

Craig GochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae argae Craig Goch yn un o bedwar yng Nghwm Elan

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 120 o flynyddoedd ers i bedwar argae mawr yng nghanolbarth Cymru gael eu creu er mwyn darparu d诺r i Birmingham.

Wedi'u hagor gan y Brenin Edward V11 yn 1904, mae argaeau Cwm Elan yn dal 50 miliwn metr ciwbig o dd诺r - tua 20,000 o byllau nofio maint Olympaidd.

Maen nhw bellach yn darparu d诺r i ganolbarth a de Cymru hefyd, ac mae'r safleoedd ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yn rhan nodweddiadol o dirlun yr ardal.

"Fe fyddan nhw yma ymhell ar 么l i ni fynd, ac ry'n ni'n disgwyl iddyn nhw fod yno am 120 mlynedd arall," meddai arbenigwr D诺r Cymru ar Gwm Elan, Jen Newman.

Cafodd y pedwar argae - Craig Goch, Garreg Ddu, Pen y Garreg a Chaban Coch - eu hadeiladu gan y Birmingham Corporation Water Department, gan ddechrau yn 1893.

Ffynhonnell y llun, D诺r Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr argaeau eu hadeiladu dros gyfnod o rhyw 10 mlynedd, cyn agor yn 1904

Fe gafodd y safle yng Nghwm Elan ei adnabod fel lleoliad addas gan Joseph Chamberlain - tad Neville Chamberlain, fyddai'n dod yn brif weinidog yn ddiweddarach - oedd yn faer Birmingham.

"Roedd Birmingham yn mynd trwy chwyldro diwydiannol enfawr, a'r boblogaeth yn cynyddu'n aruthrol, ond does dim afonydd mawr yn llifo yno," meddai Ms Newman.

"Roedd 'na afonydd llai, ac roedden nhw'n mynd yn llygredig yn sydyn iawn, felly roedd salwch yn bla yno.

"Roedd Joseph Chamberlain yn gwybod, er mwyn achub ei ddinas, roedd rhaid iddo gael d诺r gl芒n ar frys."

Ffynhonnell y llun, Jen Newman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jen Newman fod y d诺r yn teithio mor araf, mae'n cymryd tridiau i gyrraedd Birmingham

Wedi i'r safle gael ei adnabod, fe wnaeth y cwmni sicrhau pryniant gorfodol o Gwm Elan yn 1892 trwy Ddeddf Seneddol.

Er bod hynny'n newyddion da i drigolion Birmingham, doedd hynny ddim yn wir i'r boblogaeth leol yng nghanolbarth Cymru.

"Doedd gan drigolion y pentref ddim dylanwad," meddai Glyn Webster o ganolfan ymwelwyr Cwm Elan.

Cafodd dau blasty a dros 40 o adeiladau eu dymchwel, gan gynnwys 18 o ffermydd, melin fychan, ysgol a chapel.

"Bu'n rhaid i tua 100 o bobl symud," meddai Mr Webster.

"Roedd mwyafrif y pentrefwyr yn denantiaid, a dim ond perchnogion y tir a gafodd ychydig o iawndal."

'Cymryd tridiau i gyrraedd'

Dywedodd Ms Newman fod gan Gwm Elan yr amodau perffaith ar gyfer prosiect o'r fath - digon o law, y math cywir o garreg, a chymoedd cul.

Mewn ychydig dros 10 mlynedd roedd yr argaeau wedi cael eu hadeiladu ac fe wnaeth y d诺r ddechrau llifo, yn araf, i ganolbarth Lloegr.

"Mae'r bibell yn enfawr," meddai Ms Newman.

"Mae'n rhyw 70 milltir o hyd ac yn mynd o Gwm Elan yr holl ffordd i Gronfa Frankley yn Birmingham, gyda dim byd ond disgyrchiant.

"Ar gyfer pob 23m o bibell, mae cwymp o 1cm, felly mae'r d诺r yn teithio ar gyflymder o ryw filltir yr awr, ac mae'n cymryd tridiau i gyrraedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argae Caban Coch sy'n dal y mwyaf o dd诺r - 35 miliwn metr ciwbig

Mae'r argaeau hefyd yn atyniad twristaidd, ac yn 么l Ms Newman, mae lle i ddiolch i'r peiriannydd sifil oedd yn brif ddylunydd y prosiect - James Mansergh - am eu hadeiladu'n brydferth.

"Wnaeth o ddim adeiladu argae ar gyfer y pwrpas o ddal d诺r yn 么l yn unig - fe wnaeth o eu hadeiladu nhw'n brydferth hefyd," meddai.

Dywedodd Ms Newman ei bod yn amcangyfrif fod yr argaeau yn denu tua hanner miliwn o ymwelwyr i'r ardal pob blwyddyn.

"Mae Rhaeadr yn gymuned anhygoel o bobl, sydd mor falch o'r argaeau a Chwm Elan - mae'n rhan bwysig o'u twristiaeth," meddai.