Mis Balchder 2024: Pam fod Balchder dal yn bwysig
- Cyhoeddwyd
Mae Pride Cymru yn troi'n 25 oed eleni ac yn ystod penwythnos hwn bydd strydoedd y brifddinas yn llawn fflagiau cynnydd a phobl yn gorymdeithio i ddathlu eu hunaniaeth, ac i amddiffyn eu hawliau.
Dechreuodd Balchder (Pride) fel coff芒d blwyddyn o derfysg Stonewall yn 1969, a oedd ei hun yn arddangosiad yn erbyn creulondeb yr heddlu a gynhaliwyd ar fynychwyr LHDTCRhA+ y Stonewall Inn.
Ers hynny, mae digwyddiadau Balchder wedi digwydd ar draws y byd, ac mae Mehefin bellach yn cael ei adnabod fel Mis Balchder.
Ond a oes angen dathlu Balchder o hyd? Ers i Pride Cymru ddechrau 25 mlynedd yn 么l, rydym wedi gweld adran 28 yn cael ei diddymu, cyflwyno鈥檙 ddeddf Priodas (Cyplau o鈥檙 Un Rhyw), ac efallai mwy o gynrychiolaeth gyhoeddus o sut beth yw bod yn LHDTCRhA+ nag erioed o鈥檙 blaen.
Ac eto, mae troseddau casineb LHDTCRhA+ yn dal i fod yn gyffredin yn y DU, mae pobl LHDTCRhA+ a鈥檜 hawliau yn dal i fod yn destun trafod mawr ar draws y cyfryngau a gwleidyddiaeth, ac mae pobl LHDTCRhA+ yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael na鈥檙 rhai sydd ddim yn adnabod fel LHDTCRhA+.
Yma mae tri aelod o鈥檙 gymuned LHDTCRhA+ yn dweud beth mae Balchder yn ei olygu iddyn nhw, a pham ei fod yn dal yn bwysig.
Mae Lewis, sy'n cael ei adnabod fel Bendigaydfran, yn mynychu Pride Cymru pob flwyddyn.
鈥淵 tro cyntaf es i, roeddwn i yn y brifysgol a doeddwn i ddim 'di dod allan eto. Dwi鈥檔 cofio mynd a meddwl 鈥榳aw, ma鈥 hyn mor c诺l鈥, ac roedd hi mor neis jest i weld pawb yn dathlu.
"Wnaeth e ysbrydoli fi lot yn fewnol. Wnaeth e wneud i fi deimlo fel oedd e鈥檔 iawn i fod ynof i fy hun. Mae鈥檔 swnio fel 肠濒颈肠丑茅, ond sai鈥檔 credu mai pobl sydd ddim yn profi hon yn deall - mae鈥檔 gwneud cymaint o wahaniaeth jest i gael y gwelededd 'na. Rhywbeth mor fach 芒 gweld dau ddyn yn dal dwylo, yn agored yn y stryd. Mae鈥檙 teimlad yna o 鈥榦, dwi鈥檔 gallu gwneud hwnna鈥.
鈥淢ae鈥檔 dda i weld hefyd bod Pride Cymru wedi tyfu a thyfu ers hynny, a dwi mor falch ein bod ni鈥檔 dathlu yn y castell nawr, achos mae鈥檙 castell yn symbol o鈥檙 ddinas a chael Pride Cymru yna - mae鈥檔 pwysleisio pwysigrwydd y digwyddiad.
"Mae Balchder wastad 'di bod yn symbol o ddiogelu ein hawliau, ond hefyd mae鈥檔 ddathliad o'n cymuned a pha mor bell rydyn ni wedi dod. Mae鈥檔 siawns i adlewyrchu ar y bobl sydd wedi dod cyn, a oedd yn brwydro dros ein hawliau.
"Mae鈥檔 amlwg, dwi鈥檔 credu, ein bod ni dal angen Balchder; yn enwedig yn ddiweddar. Tra bod pobl mas na sy鈥檔 meddwl mai鈥檙 byd yn well hebddyn nhw, jest achos eu hunaniaeth, ni angen Balchder. Tra bod pobl yn meddwl dydyn nhw ddim yn ddigon achos sut maen nhw fel person, achos maen nhw鈥檔 caru rhywun o鈥檙 un rhywedd, neu eu hunaniaeth rhywedd, mae angen Balchder."
Mae Frankie yn helpu trefnu鈥檙 鈥楤ig Queer Picnic鈥, a sefydlwyd yn 2011 fel dewis amgen i Pride Cymru.
鈥淩ydym yn anghytuno gyda鈥檙 syniad dylen ni dalu i fynychu digwyddiad Balchder. Dechreuodd y picnic fel grwp ohonom mewn y parc gyda gitar acwstig, ond wrth i鈥檙 digwyddiad dyfu, rydym nawr, bellach wedi tyfu i fod yn gynulliad gyda system sain, llwyfan, a channoedd o bobl yn ymuno.
鈥淚 mi yn bersonol, mae Balchder wastad wedi bod yn hanfodol. Fel person traws, dydw i ddim wedi profi cyfnod lle mae cymdeithas wedi bod yn ddiogel neu'n dda - mae amseroedd wedi bod yn well neu'n waeth nag eraill, ond nid yw Balchder erioed yn golygu parti mawr i mi.
Llais i'r di-lais
Mae bob amser yn fwy na hynny. Rydym am roi llwyfan i bobl cwiar ymylol sydd ddim fel arfer yn cael llais mewn digwyddiadau Balchder prif ffrwd.
鈥淢ae Big Queer Picnic mor hygyrch 芒 phosibl ac rydym yn denu pobl o bob cefndir. Mae'n agored iawn - gallwch ganu, rhoi araith, dawnsio. Y pwrpas yw cael pobl yn cymysgu yn yr haul (gobeithio bod y tywydd yn dal i fyny!), yn rhannu bwyd ac yn ymlacio. Yn y blynyddoedd a fu, rydym wedi cael cynigion priodas, a seremoni enwi ar gyfer person ifanc traws.
鈥淔odd bynnag, y prif beth yw rhoi llais i'r di-lais o hyd.鈥
Mae鈥檙 Big Queer Picnic yn cymryd lle ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin yng Ngherddi Sophia.
Fe wnaeth Machynlleth ddathlu ei Balchder cyntaf erioed eleni. Un wnaeth helpu gyda'r trefnu oedd Sophia.
鈥淒echreuodd Balchder Machynlleth drwy gr诺p cymunedol cwiar a oedd yn bodoli eisoes, a dyfodd o 'Qrunch' - Queer Brunch. Dros amser ymunodd mwy a mwy o bobl 芒'r rhwydwaith hwn, ac erbyn hyn mae'n gr诺p anffurfiol o tua 80 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt wedi ymuno ar lafar gwlad.
鈥淩oeddem yn meddwl pa ddigwyddiadau Balchder yr oeddem am eu mynychu eleni, ac yna meddwl pam lai trefnu un ein hunain?
Cymerodd tua phedwar i bum mis o genhedlu鈥檙 syniad i鈥檙 digwyddiad ei hun, ac roedd yn rhyfeddol faint o bobl cwiar yn y cwm bach hwn oedd eisiau dathlu Balchder - ond hefyd, rhyfedd sut nad oedd yn bodoli eisoes! Po fwyaf y buom yn siarad amdano, y mwyaf y clywsom gan gymuned Mach eu bod yn synnu nad oedd hyn yn digwydd eisoes.
鈥淕wirfoddolodd pawb a gymerodd ran eu hamser, a daethom at ein gilydd i wneud iddo ddigwydd. Fe wnaethom sefydlu codwr arian a chael rhoddion o bob man - cyn belled ag UDA, hyd yn oed. Rhagorwyd ar ein targed o 拢500 mewn tridiau.鈥
Dywed Sienna roedd syndod at faint wnaeth y gymuned helpu.
鈥淥s na allent estyn i'w pocedi eu hunain, byddent yn cynnig gwasanaethau mewn nwyddau. Rhoddwyd lleoliadau i ni, rhoddodd busnesau lleol wobrau raffl, bu cynllun Noson Allan yn gymorth i ni roi cychwyn ar y digwyddiad. Cawsom hefyd arian o gronfa Balchder Llawr Gwlad.
鈥淩oedd yn un o'r sefyllfaoedd yna lle byddech chi'n tynnu ar edefyn a byddai'r siwmper gyfan yn dadfeilio - roedd y gefnogaeth yn gwbl werthfawr ac yn eithaf anghredadwy.鈥
"Roedd yr egni o amgylch y digwyddiad mor llawen, fe ragorodd yn llwyr ar ddisgwyliadau. Wnaeth cannoedd o bobl yn cymryd rhan, ac rydyn ni nawr yn cynllunio am 2025.
Bywiog, agored a chroesawgar
鈥淢ae Balchder yn bwysig oherwydd mae鈥檙 gynrychiolaeth yna鈥檔 hanfodol. Dyna oedd y grym y tu 么l i'n digwyddiad - y gwelededd hollbwysig hwnnw. A'r dref i gyd a'i gosododd. Wrth i'r gair ledaenu, cymerodd busnesau lleol ran. Roedd y siop sglods lleol yn arddangos baner Balchder!
鈥淵n bersonol, roeddwn wedi fy nghymhelliant gymaint oherwydd rwy'n gwybod sut brofiad yw eisiau'r gymuned honno. Cefais fy magu mewn pentref bychan ym Mhowys, a threuliais lawer o fy ieuenctid heb weld unrhywbeth cwiar o'm cwmpas.
"Gadawais yn y diwedd a mynd dramor, gan feddwl y byddwn yn gadael y meddylfryd cefn gwlad hwnnw ar fy 么l. Doeddwn i ddim yn gyfforddus yno. Ar y gorau roedd yna brinder, ac ar y gwaethaf roeddwn i'n teimlo nad oedd croeso mawr i mi.
鈥淔odd bynnag, oherwydd ychydig o ffawd symudais yn 么l i Gymru yn ystod Covid, a chefais fy synnu gan y cynghreiriad a ddangoswyd gan y dref. Cefais wahoddiad i ymuno 芒鈥檙 gr诺p cymunedol cwiar, ac yn awr rwy鈥檔 eiriol drosto pryd bynnag y byddaf yn cyfarfod 芒 phobl newydd yn y Cwm. Mae'n cynnwys pobl o bob oed, pobl sydd wedi tyfu i fyny yma, pobl o bell ond sy'n mwynhau chwarae rhan ynddo.
鈥淢ae Machynlleth yn fywiog, agored a chroesawgar iawn. Dyna oedd angen i mi feddwl y gallaf fyw a goroesi yma.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023