91热爆

Sioe Llanddarog: Arestio person ar amheuaeth o ddwyn

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae person wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau o anghysonderau ariannol yn ymwneud 芒 Chymdeithas Sioe Amaethyddol Llanddarog yn Sir G芒r.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y person wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddwyn, a'i fod wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth.

Mewn datganiad ar wefan y sioe, mae鈥檙 gymdeithas amaethyddol yn dweud bod is-bwyllgor wedi cynnal ymchwiliad yn ymwneud 芒 rheolaeth ariannol y gymdeithas.

Ychwanegodd fod y Comisiwn Elusennau a Heddlu Dyfed-Powys bellach yn delio gyda鈥檙 mater.

Cafodd y sioe ei chynnal fel yr arfer ym mis Mehefin ac mae'r datganiad yn dweud bod swyddogion wedi gweithio i sicrhau bod y sioe yn ddigwyddiad llwyddiannus i'r gymuned gyfan.

Ers y datganiad, mae ysgrifennydd ariannol newydd wedi cael ei benodi.