Tata: Llywodraeth yn barod am drafodaethau 'anodd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r trafodaethau gyda chwmni dur Tata ynghylch ailstrwythuro yn debygol o fod yn "anodd", yn 么l Ysgrifennydd Busnes newydd Llywodraeth y DU.
Er hynny, mae Jonathan Reynolds wedi dweud y bydd rhaid i'r llywodraeth "roi cynnig" ar newid y cynlluniau presennol, sy'n golygu colli 2,800 o swyddi.
Mae'r cwmni yn bwriadu cau'r ail ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ym mis Medi, gan ddweud eu bod yn gwneud colledion o 拢1m y dydd.
Yn y cyfamser, mae undeb Unite yn dweud fod trafodaethau cychwynnol rhwng y llywodraeth a'r undebau i geisio diogelu swyddi wedi bod yn "gadarnhaol iawn".
Ar 么l cyfarfod 芒'r Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds, fore Mercher dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae'n glir bod yr ysgrifennydd yn deall yr angen i ddiogelu dyfodol y diwydiant cynhyrchu dur ym Mhrydain.
"Yn y misoedd diwethaf, mae Unite wedi brwydro i achub swyddi yn Tata a rhoi hwb i'r diwydiant dur ym Mhrydain ar gyfer cymunedau'r dyfodol ac ar gyfer diogelwch.
"Mae hwn yn gam cyntaf allweddol ond fe allai'r buddsoddiad ychwanegol a'r agwedd newydd gan y llywodraeth Lafur newydd olygu newid mawr er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd."
Tata 'yn anhyblyg iawn'
Dywedodd Mr Reynolds ei fod eisoes wedi codi'r posibilrwydd o ohirio dyddiad cau'r ail ffwrnais chwyth gyda Tata, ond fod y cwmni wedi bod "yn anhyblyg iawn".
Dywedodd fod y trafodaethau鈥檔 ymwneud 芒 鈥渕wy na dyfodol yr unig ffwrnais chwyth sy鈥檔 weddill鈥 ym Mhort Talbot.
鈥淢ae cwestiynau ynghylch pa mor gyflym mae鈥檙 trawsnewidiad yn digwydd, a maint a graddfa鈥檙 ffwrneisi newydd a allai gael eu gosod,鈥 meddai.
Ychwanegodd Mr Reynolds fod y llywodraeth yn gweithredu polis茂au a fydd yn caniat谩u mwy o fuddsoddiad cyhoeddus yn y diwydiant dur, ac yn gwella鈥檙 amgylchedd masnachu i fusnesau.
鈥淢ae hyn yn cynnwys popeth 鈥 o sut mae ein system fasnach yn gweithio, i鈥檙 prisiau ynni a dalwyd gan gynhyrchwyr diwydiannol mawr,鈥 meddai.
"Dydy datgarboneiddio ddim yn golygu datddiwydiannu, ac mi fyddaf yn gweithio'n galed i ddiogelu swyddi fel rhan o'r trafodaethau yma, er mwyn sicrhau dyfodol y cymunedau sy'n ddibynnol ar y diwydiant dur am genedlaethau i ddod."
Roedd y llywodraeth flaenorol wedi addo 拢500m i Tata ar gyfer cost ffwrnais drydan newydd gwerth 拢1.25bn.
Bydd hynny'n golygu fod gwaith dur yn parhau ym Mhort Talbot, ond mae angen llawer llai o weithwyr ar rheiny na'r ffwrneisi chwyth traddodiadol.
Caeodd Tata y ffwrnais chwyth gyntaf yr wythnos ddiwethaf ac mae'n bwriadu cau'r ail ym mis Medi.
Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r ffwrnais drydan newydd ddechrau yn Awst 2025.
鈥淢ae llawer mwy y gallai鈥檙 fargen hon ei chyflawni,鈥 meddai Mr Reynolds wrth 91热爆 Radio Wales.
鈥淒wi鈥檔 gwybod y bydd hi鈥檔 anodd, ond rwy鈥檔 credu bod rhaid i mi roi cynnig arni.鈥
Y llywodraeth 'dan bwysau mawr'
Roedd Tata Steel wedi dweud y byddai'n bwrw ymlaen gyda鈥檙 cynlluniau ailstrwythuro gwreiddiol, dim ots pwy fyddai'n ennill yr etholiad cyffredinol.
Mae鈥檙 cwmni wedi ailadrodd hynny ers i Lafur ddod i rym, gyda鈥檙 prif weithredwr yn y DU, Rajesh Nair, yn dweud y byddai鈥檔 鈥渃ydweithio 芒 gweinidogion newydd鈥 yngl欧n 芒鈥檌 鈥済ynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi a thrawsnewid Port Talbot鈥 a 鈥渃hefnogi ein gweithwyr drwy鈥檙 trawsnewidiad anodd ond angenrheidiol yma鈥.
Mae Community, yr undeb mwyaf sy鈥檔 cynrychioli gweithwyr dur, wedi rhybuddio bod y llywodraeth newydd 鈥渄an bwysau mawr鈥 ac mai dim ond pedair i chwe wythnos sydd ganddi i newid cynlluniau Tata.
Mae undeb arall, Unite, wedi canslo streic er mwyn dychwelyd i'r trafodaethau.
Mae mwyafrif y pecynnau diswyddo wedi cael eu cytuno, a bydd y trafodaethau rhwng yr undebau a Tata nawr yn canolbwyntio ar gynlluniau buddsoddi i'r dyfodol.
Mae'r llywodraeth Lafur, a ymgyrchodd ar yr addewid o greu cronfa 拢2.5bn ar gyfer dyfodol y diwydiant dur, wedi ymrwymo i barhau 芒 chynlluniau鈥檙 llywodraeth flaenorol i ddarparu 拢500m tuag at gost y ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf