91Èȱ¬

Rygbi Cymru: Winnett a Botham i wynebu Awstralia

Winnett a BothamFfynhonnell y llun, Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cameron Winnett a James Botham yn ymuno â'r tîm gan fod Josh Hathaway ac Aaron Wainwright wedi eu hanafu

  • Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi dau newid i'w dîm i wynebu Awstralia yn yr ail brawf ddydd Sadwrn.

Bydd Cameron Winnett a James Botham yn ymuno â'r tîm gan fod Josh Hathaway ac Aaron Wainwright wedi eu hanafu.

Mae Gatland wedi gwneud newidiadau ar ôl iddyn nhw golli o 25-16 yn eu prawf cyntaf yn Sydney.

Bydd Liam Williams yn symud i'r asgell ac mae'r blaenasgellwr Taine Plumtree wedi ei ddewis yn safle’r wythwr.

Bydd Botham yn chwarae fel blaenasgellwr, wrth i Mackenzie Martin o'r Gleision gael ei roi ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Wainwright ddim yn chwarae am fisoedd ar ôl iddo gael anaf ym munudau ola'r gêm yn Sydney

Fydd Wainwright ddim yn chwarae am fisoedd ar ôl iddo gael anaf ym munudau ola'r gêm yn Sydney wrth iddo ennill ei hanner canfed cap.

Mae Hathaway wedi anafu ei benelin, gan olygu bod Williams wedi symud i'r asgell a Winnett yn gefnwr.

Mae Williams a'r prop Gareth Thomas yn ffit ar ôl cael eu hanafu dros y penwythnos, ond dydi Dillon Lewis a Ben Carter ddim yn y garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Cymru eu prawf cyntaf yn Awstralia

Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi 91Èȱ¬ Cymru Cennydd Davies

Mae anafiadau wedi effeithio ar baratoadau'r garfan cyn yr ail brawf a Warren Gatland wedi’i orfodi i wneud dau newid wedi'r golled yn y prawf cyntaf yn Sydney.

Ar ôl perfformiadau clodwiw a dibynadwy ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, bydd presenoldeb Cameron Winnett ddim yn gwanhau’r tri yn y cefn wrth i Liam Williams symud i’r asgell.

Heb unrhyw amharch i James Botham mi fydd absenoldeb Aaron Wainwright yn dipyn o ergyd ymhlith y blaenwyr – fe oedd un o chwaraewyr gorau’r ymwelwyr yn Sydney ac mi fydd y tîm yn gorfod dygymod heb ei gario deinamig a’i ddawn i groesi’r llinell fantais.

Ac eithrio hynny mae’r dewiswyr wedi cadw’n driw i’r gweddill – o bosib byddai 'na demtasiwn wedi bod i newid yr haneri er mwyn cyflymu’r tempo ac i gael y bêl mas i’r sianeli llydan ond eto Ellis Bevan – gyda’i gicio cystadleuol a Ben Thomas sydd wedi ennill y bleidlais y tro hwn.

Unwaith eto roedd y naratif wedi’r gêm y Sadwrn diwethaf yn canolbwyntio ar yr elfennau positif ac fe wnaeth dau ddigwyddiad yn benodol yn yr ail hanner benderfynu tynged y gêm.

Dyw Cymru bellach ddim wedi ennill mewn wyth gêm ac maen nhw wedi llithro i’r 11eg safle ymysg rhestr detholion y byd – eu safle isaf erioed.

Mae’r cyhoedd wedi derbyn fod y garfan yma mewn cyfnod o drawsnewid ond am ba hyd gall y rhethreg yma barhau?

Mae angen buddugoliaeth yn druenus neu bydd 'na gwestiynau (teg a chyfiawn) yn cael eu codi o dan y gyfundrefn bresennol.

Y timau yn llawn

Cymru: Cameron Winnett; Liam Williams, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer; Ben Thomas, Ellis Bevan; Gareth Thomas, Dewi Lake (capten), Archie Griffin, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, James Botham, Tommy Reffell, Taine Plumtree.

Eilyddion: Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Harri O'Connor, Cory Hill, Mackenzie Martin, Kieran Hardy, Sam Costelow, Nick Tompkins.

Awstralia: Tom Wright; Andrew Kellaway, Josh Flook, Hunter Paisami, Filipo Daugunu; Noah Lolesio, Jake Gordon; James Slipper (capten), Matt Faessler, Taniela Tupou, Jeremy Williams, Lukhan Salakaia-Loto, Rob Valetini, Fraser McReight, Charlie Cale.

Eilyddion: Josh Nasser, Isaac Kailea, Allan Alaalatoa, Angus Blyth, Langi Gleeson, Nic White, Ben Donaldson, Dylan Pietsch.