Nain a thaid yn gwadu llofruddio eu h诺yr 2 oed
- Cyhoeddwyd
Mae nain a thaid bachgen dwy oed o Sir y Fflint wedi gwadu ei lofruddio.
Fe ymddangosodd Kerry Ives, 45, a Michael Ives, 46, o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug drwy gyfrwng fideo o garchardai gwahanol, wedi eu cyhuddo o lofruddio Ethan Ives Griffiths ym mis Awst 2021.
Cadarnhaodd y ddau eu henwau a phledio'n ddieuog i lofruddiaeth, achosi neu ganiat谩u marwolaeth plentyn, a chreulondeb at berson dan 16.
Fe ymddangosodd mam Ethan, Shannon Ives, 27, yn y llys hefyd a gwadu achosi neu ganiat谩u marwolaeth plentyn, a chreulondeb at berson dan 16.
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
Cafodd y bachgen ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid yn Garden City, Glannau Dyfrdwy.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Countess of Chester cyn iddo gael ei symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw o anaf i'r ymennydd.
Cadarnhaodd y barnwr Rhys Rowlands y bydd yr achos llys yn erbyn y tri yn dechrau ar 11 Tachwedd a bod disgwyl iddo bara rhwng pedair a phum wythnos.
Cafodd Kerry a Michael Ives eu cadw yn y ddalfa ac fe gafodd Shannon Ives ei rhyddhau ar fechn茂aeth.