Gething yn ad-drefnu ei lywodraeth wedi ymddiswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru.
Daw'r ad-drefnu ar 么l i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo fore Mawrth.
Yn sgil hynny dywedodd Mr Gething y bydd yn ymddiswyddo.
Eluned Morgan sy'n gyfrifol am y Gymraeg.
Mae Jack Sargeant wedi cael ei wneud yn weinidog partneriaeth gymdeithasol, tra bod Sarah Murphy yn symud i fod yn gyfrifol am iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar.
Bydd Ken Skates yn dod yn ysgrifennydd economi, tra bod Jayne Bryant yn cael ei dyrchafu鈥檔 ysgrifennydd dros lywodraeth leol.
Y pedwar aelod a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn gadael y llywodraeth oedd Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.
Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.
Does dim manylion hyd yma am y ras i'w olynu.
Mae 91热爆 Cymru'n deall fod Jeremy Miles - y dyn a ddaeth yn ail o drwch blewyn i Mr Gething yn yr ornest ychydig fisoedd yn 么l - yn debygol o ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru unwaith eto.
Ond mae un o'r enwau sydd wedi eu crybwyll, y cwnsler cyffredinol Mick Antoniw, wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu ymuno 芒'r ras.
Y llywodraeth yn llawn
Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa鈥檙 Cabinet - Rebecca Evans
Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd Addysg - Lynne Neagle
Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai - Jayne Bryant
Ysgrifennydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a鈥檙 Gymraeg - Eluned Morgan
Ysgrifennydd Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - Ken Skates
Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a鈥檙 Prif Chwip - Jane Hutt
Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden
Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Jack Sargeant
Gweinidog Iechyd Meddwl a鈥檙 Blynyddoedd Cynnar - Sarah Murphy
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf