91热爆

Erthygl RT Davies yn 'bryfoclyd' - Cyngor Mwslemaidd

Andrew RT Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgrifennodd Andrew RT Davies yr erthygl ddadleuol ar gyfer gwefan GB News

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi ei gyhuddo o bryfocio mewn modd Islamoffobaidd, gyda'i sylwadau mewn erthygl ddiweddar ar gyfer gwefan GB News.

Yn yr erthygl dywedodd Mr Davies na ddylai plant ysgol gael eu gorfodi i fwyta cig halal.

Ond yn 么l Cyngor Mwslemaidd Cymru, mae'n ceisio defnyddio hiliaeth er mwyn ennyn ymateb.

Mae Mr Davies yn gwrthod y feirniadaeth gan ddweud ei fod ond yn codi cwestiynau ar ran etholwyr.

Ond mae'r erthygl, ynghyd 芒 neges ddiweddar ar gyfrif X Mr Davies yn gofyn a ddylai'r Senedd gael ei diddymu, wedi amlygu anfodlonrwydd o fewn y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd.

'Sgil-effeithiau go iawn ar lawr gwlad'

Fe ysgrifennodd Mr Davies yr erthygl ar gyfer GB News bythefnos yn 么l, ar 么l i un o'i etholwyr honni iddi gael gwybod taw dim ond cig halal oedd ar gael yn ysgol ei merch yn Y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

Mae'r ysgol wedi dweud bod hynny'n gwbl anghywir, ond yn ei erthygl fe ddywedodd Mr Davies na ddylai plant gael eu gorfodi i fwyta cig halal.

Fe gafodd yr erthygl ei rhannu ar wefan X gan Stephen Yaxley-Lennon - yr ymgyrchydd adain dde dadleuol sy'n cael ei adnabod fel Tommy Robinson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr erthygl ei rhannu gan yr arweinydd adain dde eithafol Stephen Yaxley-Lennon, sy'n cael ei 'nabod fel Tommy Robinson

Mewn datganiad cryf mae Cyngor Mwslemaidd Cymru wedi beirniadu Mr Davies yn chwyrn.

Maen nhw'n dweud bod sylwadau fel hyn yn arwain at sgil-effeithiau go iawn ar lawr gwlad.

Daeth eu datganiad ar adeg o densiwn mawr, gyda gwrthdaro mewn cymunedau ar draws Lloegr yn y dyddiau ers llofruddiaeth tri phlentyn yn Southport lai na phythefnos yn 么l.

Mae Andrew RT Davies yn gwrthod y feirniadaeth yn llwyr, gan ddweud taw'r cyfan mae wedi ei wneud ydy codi cwestiynau ar ran ei etholwyr.

Dywedodd bod hi'n gwbl "anghyfrifol" i geisio gwneud cysylltiad rhwng "y pryderon dilys yna a'r gwrthdaro yr ydym wedi ei weld ar ein strydoedd".

Ychwanegodd y bydd yn parhau i drafod gydag unigolion a sefydliadau o bob cymuned a chrefydd.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies

Mae'r Aelod o Senedd Cymru, Natasha Asghar, sy'n un o ddau aelod Mwslemaidd o fewn y gr诺p Ceidwadol, wedi dweud ei bod wedi codi pryderon gyda Mr Davies ynghylch yr erthygl.

Dywedodd aelod arall wrtha'i heddiw ei bod hi'n dod yn fwy anodd i amddiffyn sylwadau'r arweinydd, ac os ydy pethau'n parhau fel hyn byddai ei sefyllfa yn anghynaladwy ac fe allai wynebu her i'w arweinyddiaeth.

Mae yna anfodlonrwydd hefyd yn dilyn neges gan Andrew RT Davies ar y cyfryngau cymdeithasol yn codi鈥檙 cwestiwn a ddylai鈥檙 Senedd gael ei diddymu.

Mae sawl aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi beirniadu hynny, gan holi pam fod y cwestiwn yn cael ei ofyn, o ystyried nad ydy cael gwared ar y Senedd yn bolisi gan y blaid.

Mae cyn-arweinwyr y gr诺p, Paul Davies a'r Arglwydd Bourne, ymhlith y rheiny sy'n gwneud y pwynt yna.

Felly mae yna ambell i gwestiwn bellach yn codi am ddyfodol Andrew RT Davies, ond ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn ymddangos bod yna her wirioneddol iddo fe ar fin dod - i raddau helaeth achos dydy hi ddim yn glir pwy allai gymryd ei le.