91热爆

'Hunllef' cyn-Miss Cymru o glywed lleisiau am niweidio ei mab

Tomos a SaraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sara Manchipp a'i mab Tomos, sy'n dair oed erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Gallai cynnwys yr erthygl yma beri loes i rai

Mae cyn-enillydd Miss Cymru wedi s么n am yr "hunllef" o beidio gallu bod ar ei phen ei hun gyda'i mab am ei bod yn clywed lleisiau yn ei hannog i wneud niwed iddo.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Sara Manchipp bod geni Tomos yn brofiad arbennig iddi hi a'i phartner.

Ond ddiwrnod wedi ei eni fe ddatblygodd y cyflwr OCD postpartum - cyflwr sy'n effeithio ar rai mamau ar 么l iddyn nhw roi genedigaeth.

Dywedodd ei bod yn "gweld lluniau a chlywed llais yn fy mhen i yn dweud wrtha'i y gallwn ladd fy mhlentyn" a bod hynny yn "gwbl hunllefus".

Ond mae Sara, 34, yn pwysleisio bod cymorth ar gael ar gyfer cyflwr o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae Sara, o Bort Talbot, wedi byw gydag OCD ers yn ifanc, a than yn ddiweddar roedd y cyflwr dan reolaeth ganddi.

"Ond wedi geni Tomos o'dd e fel bo switch wedi troi yn pen fi a 'nes i fynd yn dost iawn," meddai.

"Gallen i fod lan st芒r gyda Tomos yn yr ystafell wely ac o'dd llun yn dod i pen fi a geiriau fel 'Beth os fi'n codi'r glustog 'na a rhoi e dros ben Tomos a lladd e'.

"Neu allen i fod mas yn yr ardd a bydden i'n clywed llais yn dweud 'Beth os wyt ti'n gollwng e ar y llawr a bydd e'n craco pen e?'

"O'n i ffili bod yn y gegin ar ben fy hun gyda Tomos - ac yn ymyl cyllell - neu byddai 'na luniau a geiriau yn dod i fi. O'dd y cyfan yn hunllef."

'Credu bo fi'n fam ddrwg'

Ychwanegodd: "Y peth yw gydag OCD mae'n obsesiynol, felly mae'n repeated a bob tro chi'n ymladd yn erbyn e mae'n mynd yn waeth.

"O'n i mor dost o'n i'n credu beth o'dd yr OCD yn dweud wrtha'i.

"O'n i'n credu bo fi'n fam ddrwg. O'n i'n colli meddwl fi.

"O'n i ddim yn gallu bod ar ben fy hun gyda'r babi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sara Manchipp yn cystadlu mewn pasiantau harddwch eto ac yn trefnu digwyddiadau

Yn ystod ei phlentyndod, dywedodd ei bod yn golchi ei dwylo nes eu bod yn gwaedu er mwyn cael gwared ar germau.

Roedd odrifau yn broblem iddi, byddai'n osgoi cerdded ar rannau o balmant a byddai'n cyffwrdd 芒 rhywbeth degau os nad cannoedd o weithiau er mwyn "osgoi marwolaeth rhywun agos neu i'r t欧 losgi".

Pan yn fyfyriwr 20 oed fe ddatblygodd y cyflwr i fod yn harm OCD ac fe ddechreuodd gael cwestiynau cwbl anghynnes yn ei phen.

"Do'dd cyffwrdd 芒 rywbeth 500 o weithiau ddim yn gweithio rhagor - ro'n i'n clywed lleisiau yn gofyn i fi beth os ydw i'n mynd i 'stafell aelodau o'r teulu a gwneud rhywbeth ofnadwy iddyn nhw.

"Ro'n i wrth gwrs yn byw gyda Mam-gu a Grandpa ac yn dwlu arnyn nhw ond mae'r cyflwr yn golygu eich bod yn preyo ar y rhai agosaf atoch chi.

"I ddod dros hynny fyddwn i ddim yn bwyta a byddwn yn trio 'neud fy hun mor wan 芒 phosib fel bo fi ddim yn gallu 'neud dim byd. Ro'n i'n siomi fy hun wrth i fi gael y profiadau erchyll."

Roedd ei chyfnod fel Miss Cymru (2011-12) yn anodd ar brydiau, meddai, yn sgil y salwch gyda threfnwyr y gystadleuaeth ar ddechrau ei chyfnod yn ystyried, heb yn wybod iddi ar y pryd, penodi yr un a ddaeth yn ail i'r r么l.

Ychwanegodd bod ei chwrs gradd Seicoleg yn y brifysgol wedi bod o gymorth mawr iddi ac wedi gwneud iddi sylweddoli bod cymorth ar gael.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ry'n ni bellach yn deulu hynod o hapus wedi fy nhriniaeth, medd Sara Manchipp

Wrth gyfeirio at ei salwch diweddar yr hyn oedd yn anodd oedd "cwato fe rhag pawb arall", ychwanegodd Sara.

"Roedd John fy mhartner i yn ymwybodol ond pan ro'dd teulu a ffrindiau yn dod draw eu geiriau wastad oedd 'Mae'n rhaid bo ti mor hapus ar 么l gael babi'.

"Ond tu fewn o'n i jyst yn sgrechen a sgrechen a moyn help - dyw hyn ddim i fod i ddigwydd i fam newydd yw e?

"O'n i ddim moyn dweud wrth John i ddechrau achos yn amlwg dyw e ddim yn hawdd dweud wrth eich partner bo chi am ladd y babi - mae'n anodd iddo ddeall ond mae e'n llawn cydymdeimlad ac yn gwybod pan dwi angen mynd lan lofft i gael cyfnod ar ben fy hun."

'Golau ar ddiwedd y twnnel'

Mae Sara yn awyddus i bwysleisio bod yna gymorth ar gael er bod hi'n anodd gofyn am gymorth pan "ynghanol cyfnodau du".

"Mae rhywun yn bryderus mewn cyfnodau fel hyn ond yr hyn sy'n bwysig yw gwybod bod timau arbenigol mas 'na sy'n gallu delio gyda'r salwch.

"Dwi wedi cael help arbennig gan d卯m iechyd meddwl Castell-nedd a Phort Talbot - y peth gorau 'nes i o'dd gofyn am help.

"Ro'n nhw'n arbennig, ges i therapi, ro'n i'n cael gweld seiciatrydd bob wythnos - ges i help am flwyddyn a hanner."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae'n pwysleisio, er hynny, mai dysgu delio gyda'i chyflwr y mae hi.

"Dyw e ddim yn diflannu ond fel dwi wedi profi mae modd ei reoli gyda chymorth.

"Ar hyn o bryd fi mewn lle da. Fi'n gwybod shwt i ddelio gyda pethe os fi'n cael y meddyliau 'na a'u gwthio i ffwrdd."

Mae hi bellach yn cystadlu mewn pasiantau harddwch eto ac yn gweithio fel trefnydd digwyddiadau.

"Yr hyn fi am bwysleisio yw bod help mas 'na a llawer o fforymau siarad ond dyw lot o fenywod ddim yn gwybod hynny. Mae mor bwysig i gael help neu fel arall chi'n gallu bod mewn lle mor unig.

"Gofynnwch am help - mae golau ar ddiwedd y twnnel. Mae OCD yn gyflwr y mae modd ei reoli - does dim rhaid iddo reoli eich bywyd," ychwanegodd.

Mae manylion am sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rai sy'n byw ag OCD ar wefan 91热爆 Action Line

Pynciau cysylltiedig