91热爆

Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cau 265 o swyddi

Nant yr ArianFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tri o ganolfannau ymwelwyr CNC yn wynebu cau

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried cau 265 o swyddi mewn ymgais i arbed 拢13m.

Mae'r corff yn gofyn am adborth staff ar y cynnig cyn i'r bwrdd ddod i benderfyniad ddiwedd mis Medi.

Byddai'r cynnig yn golygu cau tri chanolfan ymwelwyr ddiwedd mis Mawrth 2025, sef Coed y Brenin, Nant yr Arian, ac Ynys Las.

Bydd cyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener yn sgil pryder am ddyfodol canolfan Coed y Brenin ger Dolgellau.

Ychwanegodd CNC fod tua 200 o swyddi gwag a swyddi newydd yn cael eu creu yn y sefydliad. Does dim manylion am natur y swyddi hynny.

"Ein bwriad yw cyfyngu nifer y diswyddiadau," medd CNC mewn datganiad.

"Ond mae'n bosib na fydd gofynion y swyddi [fyddai'n cael eu cau] yr un peth 芒 gofynion y swyddi newydd."

Fe wnaeth CNC ddweud wrth staff mewn e-bost ddydd Mercher am eu cynllun i leihau'r gyllideb staff gan 拢13m erbyn 1 Ebrill 2025.

Dywed CNC fod y cynllun yn golygu fod "pob aelod o staff ym mhob canolfan ymwelwyr yn wynebu cael eu diswyddo".

"Byddai llwybrau, mynediad, meysydd parcio, a thai bach yn parhau ar y safleoedd."

'Arian cyhoeddus yn eithriadol o dynn'

Dywedodd fod ymgynghoriad gydag undebau wedi cychwyn ond y "bydd y cynnig yn tynnu 265 o swyddi o strwythur CNC".

"Y bwriad yw ailffocysu adnoddau ar y gweithgareddau fydd 芒'r effaith fwyaf ar natur, yr hinsawdd, a lleihau llygredd, yn ogystal 芒'r gwaith statudol ond CNC sy'n medru ei wneud.

"Ein gobaith yw atal diswyddiadau gymaint ag y gallwn ni. Bydd rhai o'r newidiadau hyn, os ydyn nhw'n digwydd, yn effeithio ar ein partneriaid, cwsmeriaid, a rhanddeiliaid."

Dywedodd Prif Weithredwr CNC Clare Pillman fod "arian cyhoeddus yn eithriadol o dynn drwy'r DU".

"Mae'n rhaid i ni edrych ar ein holl gyfrifoldebau a chraffu ar beth sy'n bosib ac yn angenrheidiol i ni barhau i'w wneud, beth y'n ni'n stopio, a beth y'n ni'n eu harafu neu ei wneud yn wahanol."

Pynciau cysylltiedig