91热爆

Ymchwilio i ymosodiad ar aelod staff yn Zip World Betws-y-coed

cymeriadau Ffear FforestFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae digwyddiad Ffear Fforest yn cael ei gynnal ar y safle pob nos rhwng 11 Hydref a 3 Tachwedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad ar aelod o staff ar safle Zip World Betws-y-coed nos Lun.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod yr aelod staff "wedi dod i gysylltiad 芒 dyfais feddygol a allai fod yn beryglus".

Doedd Zip World ddim yn fodlon gwneud sylw yngl欧n 芒 honiadau mai nodwydd oedd y ddyfais dan sylw.

Cafodd yr aelod staff, oedd mewn gwisg ffansi fel clown, ei gludo i'r ysbyty i gael profion meddygol rhagofalus, meddai Zip World.

Ychwanegon nhw ei fod wedi cael ei ryddhau y noson honno.

Dim risg i'r cyhoedd

Dywedodd yr heddlu bod eu hymholiadau yn parhau ac nad oes risg i'r cyhoedd yn ehangach.

Mae digwyddiad Ffear Fforest yn cael ei gynnal ar y safle ym Metws-y-coed pob nos rhwng 11 Hydref a 3 Tachwedd.

Dywedodd y cwmni: "Cafodd y safle ei gau dros dro tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

"Ar 么l iddyn nhw gwblhau eu hymchwiliadau, roedd y safle yn ddiogel i'w ailagor.

"Bydd digwyddiadau nosweithiol Ffear Fforest yn parhau fel y cynlluniwyd ac yn rhedeg pob nos tan 3 Tachwedd.

"Hoffem sicrhau cwsmeriaid bod eu diogelwch a diogelwch ein staff yn parhau i fod yn hollbwysig ac, fel mesur rhagofalus, rydym wedi cynyddu diogelwch ar gyfer y nosweithiau sy'n weddill."

Pynciau cysylltiedig