91热爆

Clybiau Cymru'n cael gwybod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

CaernarfonFfynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Caernarfon i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y clwb ar 么l trechu Penybont yn y gemau ail gyfle

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o glybiau'r Cymru Premier wedi cael gwybod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Ewrop wedi i'r enwau ddod allan o'r het yn Y Swistir ddydd Mawrth.

Bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd, yn herio FK Decic o Montenegro yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd y cymal cyntaf gartref ar Neuadd y Parc ar 9/10 Gorffennaf, a'r ail gymal oddi cartref ar 16/17 Gorffennaf.

Llwyddodd Caernarfon i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y clwb ar 么l trechu Penybont yn y gemau ail gyfle.

Eu gwobr nhw ydy wynebu Crusaders FC o Ogledd Iwerddon yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa (Europa Conference League).

Yn yr un gystadleuaeth bydd Cei Connah yn herio NK Bravo o Slofenia, tra bo'r Bala yn wynebu Paide Linnameeskond o Estonia.

Bydd cymal cyntaf y gemau hynny ar 11 Gorffennaf, tra bo'r ail gymal ar 18 Gorffennaf.

Fe fydd Caernarfon a'r Y Bala yn chwarae'r cymal cyntaf gartref, tra bod Cei Connah oddi cartref ar gyfer y g锚m gyntaf.

Bydd Caernarfon yn chwarae eu g锚m gartref yn stadiwm eu gelynion pennaf - Stadiwm Nantporth Bangor - ac yno y bydd g锚m gartref Cei Connah hefyd, am fod y stadiwm yn cyrraedd gofynion UEFA.

Fe fydd Y Bala yn chwarae eu g锚m gartref nhw yn stadiwm Y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt - Neuadd y Parc.