Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfaddef camgymeriadau dros honiadau Abaty Ynys BÅ·r
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, 91Èȱ¬ Cymru
Yn ei chyfweliad cyntaf, mae swyddog diogelu Abaty Ynys Bŷr wedi cyfaddef bod camgymeriadau wedi eu gwneud wrth ddelio â honiadau o gam-drin rhywiol yn y gorffennol.
Mae Abaty Ynys BÅ·r wedi comisiynu arbenigwr ar ddiogelu, Jan Pickles, i ymchwilio i honiadau o gam-drin.
Doedd Maria Battle ddim yn barod i wneud sylw am honiadau diweddar o ymddygiad amhriodol ar yr ynys, ond dywedodd bod yr Abaty wedi ymdrin â'r mater mewn "ffordd briodol".
Hi yw'r person cyntaf i siarad ar ran yr Abaty ynglŷn â honiadau o gam-drin ar yr ynys.
Dywedodd Ms Battle ei bod hi wedi adolygu'r polisi diogelu, a bod llinell ffôn a chyfeiriad e-bost bellach ar gael, sy'n cael ei wirio yn ddyddiol.
Rhyw filltir oddi ar arfordir Dinbych-y-pysgod, mae Ynys BÅ·r yn gartref i urdd o fynachod Sistersaidd ac yn atyniad mawr i ymwelwyr.
Yn 2017 fe ddaeth hi'r amlwg bod mynach o'r enw Thaddeus Kotik wedi cam-drin nifer o ddioddefwyr yn ystod y 1970au a'r 80au.
Bu farw Kotik yn 1992.
Cafodd chwech o fenywod, oedd wedi cael eu cam-drin, iawndal gan yr Abaty mewn setliad ariannol.
Mae Abaty Ynys BÅ·r wedi comisiynu gweithiwr cymdeithasol profiadol, Jan Pickles, i gynnal "adolygiad trwyadl" o honiadau gan ddioddefwr arall o'r enw Kevin O'Connell.
Adolygiad i 'geisio canfod y gwir'
Mae Maria Battle, cyn-ddirprwy y Comisiynydd Plant, wedi bod yn ymweld ag Ynys BÅ·r ers 35 mlynedd ac mae hi'n dilyn y ffydd Babyddol.
Mae hi wedi gwirfoddoli i fod yn swyddog diogelu ar yr ynys am ei bod hi'n "poeni am blant a phobl ifanc".
Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni Caldey Island Company Ltd, sef adain fasnachol yr ynys.
Mewn cyfweliad â 91Èȱ¬ Cymru, mae Ms Battle yn dweud bod yr Uchel Dad yn yr Abaty, Jan Rossey, wedi comisiynu'r adolygiad am ei fod am "gymryd cyfrifoldeb am y gorffennol a cheisio canfod y gwir".
Dywedodd: "Mae'n credu bod gwrando yn rhan o hynny, ac mae gwrando yn rhan o gymodi.
"Mae eisiau dysgu gwersi o'r gorffennol a gwneud yr ynys hyd yn oed yn fwy diogel nawr ac yn y dyfodol."
Mae Ms Battle yn cyfaddef bod camgymeriadau wedi eu gwneud.
"Mae yna gydnabyddiaeth o gamgymeriadau yn y gorffennol," meddai.
"Yn amlwg, fe fydd yr adolygiad yn ystyried deunydd o'r gorffennol, a sut y cafodd ei reoli o fewn Ynys BÅ·r, yr Abaty a'r esgobaeth."
Does gan Jan Pickles ddim pwerau cyfreithiol ffurfiol i gynnal adolygiad, ond yn ôl Ms Battle mae ganddi "gydweithrediad llwyr i Ynys Bŷr a'r Esgobaeth".
"Fe fydd ganddi fynediad llawn i ddogfennau a phobl. Fe fydd hi'n gwrando ar bobl a chasglu tystiolaeth.
"Yn seiliedig ar beth maen nhw'n dweud, fe fydd hi'n llunio adroddiad annibynnol.
"I'r bobl hynny sydd heb siarad, mae'r drws ar agor, ac fe fydd rhywun yn gwrando."
Yn y gorffennol, mae honiadau wedi bod am droseddwyr rhyw yn byw ar Ynys BÅ·r.
Dywedodd Maria Battle wrth 91Èȱ¬ Cymru bod yr holl fynachod a'r mwyafrif o drigolion yr ynys yn cael eu gwirio am gefndir troseddol.
"Mae pob person ar yr ynys wedi cael hyfforddiant diogelu cyn dechrau'r tymor gwyliau," meddai.
"Mae'r mynachod yn cael prawf DBS, ynghyd â'r mwyafrif o drigolion yr ynys.
"Rwy' wedi adolygu'r polisi diogelu ac wedi trafod gyda Mrs Pickles.
"Mae yna linell ffôn a chyfeiriad e-bost diogelu, ac rwy'n eu gwirio nhw yn ddyddiol.
"Mae gyda ni bosteri dros yr ynys, felly mae pobl yn gwybod ble i fynd i gael cymorth."
Fe ymddiswyddodd dau o gyfarwyddwr cwmni Caldey Island fis Mehefin llynedd.
Mae 91Èȱ¬ Cymru yn deall eu bod wedi gadael am eu bod nhw'n anhapus gyda'r ffordd y gwnaeth yr Abaty ymdrin â honiadau am sut y gwnaeth aelod o staff siarad gyda menywod ifanc oedd yn gweithio yn yr ystafelloedd te.
Dywedodd Ms Battle nad oedd hi'n medru ateb cwestiynau am y digwyddiad honedig am "resymau cyfreithiol".
"Rwy methu gwneud sylw am aelod presennol na chyn-aelod o staff am resymau cyfreithiol," meddai.
"Yr hyn fedra i ddweud yw ein bod ni wedi ymdrin â'r sefyllfa mewn ffordd briodol."
Doedd hi ddim yn barod i ddweud a oedd y ddau gyn-gyfarwyddwr wedi gorfod arwyddo cytundebau oedd yn golygu nad oedden nhw'n gallu siarad â'r wasg.
'Fe ddaw'r gwirionedd i'r fei'
Pan ofynnwyd iddi am ei gobeithion am yr adolygiad, dywedodd Ms Battle bod yr adolygiad yn brawf o ddiwylliant tryloyw, gwahanol.
"Rydym yn gobeithio y bydd yna oleuni ar y mater, ac fe ddaw'r gwirionedd i'r fei.
"Ein gobaith ni yw y bydd yna broses gymodi ac fe ellid dysgu gwersi, ac fe all yr ynys symud ymlaen mewn ffordd gryfach, agored, onest a thryloyw."