'Ofn dod allan ond yn diolch am groeso f'eglwysi'
- Cyhoeddwyd
A hithau'n fis Pride sy'n dathlu y gymuned LHDT+ dywed y Parchedig Dylan Rhys Parry na all e ddiolch ddigon i'w eglwysi wedi iddo benderfynu dod allan ryw flwyddyn yn ôl.
Mae Dylan Rhys yn weinidog ar eglwysi annibynnol Gofalaeth Glannau Ogwr sy'n cynnwys capel y Tabernacl ym Mhen-y-bont a chapel y Tabernacl, Porthcawl.
"Roeddwn yn gwybod fy mod yn hoyw ond 'nes i ddim dod allan tan yn ddiweddar. Roedd gen i rywfaint o ofn.
"Mae yna bethau sydd yn mynd drwy feddwl rhywun ac mae rhywun yn poeni, wrth reswm, fel gweinidog a Christion - poeni be' mae pobl eraill yn mynd i feddwl a thrio parchu be' mae pobl yn mynd i feddwl hefyd," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
Wrth drafod y ddrama Lost Boys and Fairies sy'n dilyn cwpl hoyw wrth fabwysiadu dywed Dylan Rhys ei fod yn bendant yn uniaethu â chymeriad Gabriel oherwydd wrth "dyfu yn y capel mae pethau yn mynd drwy’ch meddwl chi".
"Ydi o yn iawn i fod yn hoyw ac i fod yn Gristion hefyd?
"Roeddwn i’n gallu uniaethu llawer efo Gabriel, ond i mi yn bersonol ddeuis i ddim allan tan yn reit ddiweddar mewn gwirionedd.
"Yn ystod y flwyddyn diwetha' dwi wedi gwneud hynny a hynny am mod i mewn perthynas efo mhartner ac mae’r croeso dwi i wedi ei gael, fi a’m mhartner, wedi bod yn amhrisiadwy fel Cristion ac fel person hoyw."
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
Mewn oedfa ar Radio Cymru yn gynharach eleni dywedodd Mr Parry ei bod mor bwysig croesawu pawb i'r eglwys.
Dywed ei fod ef ei hun yn cofio crio ar ôl dod adref wedi trafodaethau eglwysig ar briodi cyplau hoyw.
"Mae'r eglwysi dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw wedi bod yn gefnogol iawn ond mewn cyfarfodydd egwysig eraill dwi'n cofio ambell drafodaeth ar briodasau un rhyw ac roedd pobl yn defnyddio geiriau fel disgusting.
"'Nes i fynd adre' y noson honno a chrio - rhaid i eglwysi ddysgu delio gydag emosiynau pobl a bod yn hynod ofalus am yr eirfa y maen nhw'n ei defnyddio wrth drafod y gymuned LHDT+.
"Rhaid bod yn gynhwysol - mae hi mor bwysig croesawu pawb ac fe fydden i'n gwerthfawrogi mwy o lyfrau am y maes yn Gymraeg - yn enwedig yn y cyd-destun eglwysig."
Ychwanega Dylan Rhys mai un o'r pethau "sydd yn bwysig i mi ydi be wnaeth Iesu Grist ei hun ddweud sef bo fi yn ddigon a bo fi wedi cael fy ngharu a hynny sydd wedi fy nghario fi drwy hyn i gyd".
"Wrth gwrs mae safbwyntiau diwinyddol wastad yn mynd i godi eu pen, ac mae o yn codi pen nid jyst gyda homoffobia a’r gymuned LGBT+ ond gyda bob sbectrwm o fywyd.
"Ond i mi - ac mae rhai pobl wedi dweud wrtha i fod bod yn hoyw yn bechod - mae pechod yn weithred sydd yn gwahanu ni oddi wrth Dduw ac yn cadw ni rhag caru cymdogion fel ni ein hunain ... dydi bod yn hoyw felly ddim yn bechod i mi oherwydd mod i’n teimlo yn agos at Dduw, ac mae bod ym mhresenoldeb Duw yn peri i mi allu caru cymydog hefyd."
'Bwlio a bod yn gas yn bechod'
"Mae bwlio yn bechod, mae bod yn gas tuag at eraill yn bechod, mae rhoi dy hun yn lle Duw yn barnu pobl eraill yn bechod hefyd.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran y ddwy ochr - y gymuned Gristnogol a’r un LGBT+ oherwydd un llinell glywis i yn y ddrama Lost Boys and Fairies oedd y gweithiwr cymdeithasol yn edrych ar lun o Gabriel fel drag queen ac yn dweud 'Paid â phoeni, gweithiwr cymdeithasol ydw i nid gweinidog' ac felly mae 'na dybiaeth fod gweinidogion yn fwy beirniadol ac yn fwy condemniol efallai.
"Mae hi mor bwysig i bawb ein derbyn ni fel ydan ni - dyna'r ffordd ymlaen heb os," ychwanegodd.