91热爆

Cyngor yn addo trwsio arwydd ffordd gyda sticer 'Nid yw Cymru ar werth'

Yr arwydd ar yr A545 sy'n arwain i Biwmares ychydig ar 么l Penrhyn SafnasFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arwydd ar yr A545 sy'n arwain i Fiwmares, ychydig ar 么l Penrhyn Safnas

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor M么n wedi addo trwsio arwydd ffordd sydd wedi ei ddifrodi gyda phaent a sticer 'Nid yw Cymru ar werth'.

Mae gan yr arwydd sy'n croesawu pobl i Fiwmares - tref sy'n boblogaidd gyda thwristiaid - hysbyseb "eiddo ar werth" uwch ei ben.

Ond mae'r gair 'Beaumaris' wedi ei ddifrodi gyda phaent coch, ac mae sticer 'Wales is not for sale' wrth ei ochr.

Nid yw'n glir pryd y cafodd ei ddifrodi, ond y gred yw iddo fod yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

Mae'n ymddangos bod y sticer yn hybu barn ymgyrchwyr Cymraeg, sydd wedi bod yn bryderus ers tro am nifer yr ail gartrefi a phrisiau tai uchel, sydd, medden nhw, yn gyrru pobl leol i ffwrdd.

Mae Biwmares yn adnabyddus am fod 芒 nifer uchel o dai haf ac eiddo Airbnb.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys M么n y byddai'r arwydd yn cael ei "lanhau a鈥檌 adfer i鈥檞 gyflwr gwreiddiol cyn gynted 芒 phosib".

Pynciau cysylltiedig