Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy o bensiynwyr yn marw heb daliad tanwydd y gaeaf
- Awdur, Rhodri Lewis
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru
Mae鈥檙 Comisiynydd Pobl H欧n yn dweud y bydd mwy o bensiynwyr yng Nghymru yn marw oherwydd y penderfyniad i waredu taliad tanwydd y gaeaf.
Bydd 90% o bensiynwyr rhwng 66 a 79 oed yn colli鈥檙 taliad, ynghyd 芒 71% o bensiynwyr ag anableddau.
Mae'r comisiynydd, Rhian Bowen Davies, yn dweud bod angen i weinidogion wyrdroi'r penderfyniad.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y toriad yn angenrheidiol er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 hyn y maen nhw'n ei alw鈥檔 "dwll du" ariannol a adawyd ar 么l gan y Ceidwadwyr.
Dechreuodd Shelia Burgess o Fagwyr ger Casnewydd weithio yn 15 oed.
Roedd hi鈥檔 meddwl y byddai'n gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth yn 60 oed, ond wedyn cafodd ei dal allan gan newidiadau鈥檙 llywodraeth i鈥檙 rheolau.
Mae Sheila yn un o ferched WASPI - merched a anwyd yn y 1950au ac sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau Llywodraethy DU i bensiynau.
Mae hi bellach yn colli taliad tanwydd y gaeaf hefyd ac yn dweud ei bod wedi cael ei tharo ddwywaith.
"Roedd y lwfans tanwydd y gaeaf yn golygu bo'n i ddim yn gorfod poeni os oedd y tywydd yn mynd yn oer iawn ac yn mo'yn rhoi'r gwres ymlaen am fwy o amser yn y dydd.
"Nawr mae'n rhaid i ni feddwl ddwywaith am hynny. Rwy鈥檔 gwybod nad yw'n swm enfawr o arian ond mae鈥檙 拢300 yn ystod misoedd y gaeaf wedi bod yn help mawr."
Mae ffigyrau Llywodraeth y DU ei hun a ddatgelwyd ar 么l cais Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos y bydd 83% o bobl dros 80 oed yn colli taliad tanwydd y gaeaf, tra bod hynny鈥檔 codi i 90% i鈥檙 rhai rhwng 66 a 79 oed.
Yn 么l y Comisiynydd Pobl H欧n, Rhian Bowen Davies, bydd mwy o bobl yn marw o ganlyniad.
"Mae peidio cael taliad tanwydd y gaeaf yn golled o 拢200 neu 拢300 i unigolion ar unwaith - gan ein bod yn mynd i mewn i'r gaeaf, pan fydd y cap ar bris ynni wedi cynyddu hefyd.
"Felly bydd pobl yn teimlo effaith hyn nawr. Ni鈥檔 gwbod y gall hyn arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf hwn."
'Gwarthus'
Bydd grwpiau eraill ar eu colled hefyd wrth i鈥檙 taliad gael ei dynnu oddi ar 71% o bensiynwyr anabl.
Mae Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies, yn dweud bod hynny鈥檔 warthus ac mae angen pob ceiniog arnyn nhw.
Dywedodd: "Mae llawer o bobl anabl, o bob oed, yn aml 芒 chostau tanwydd uwch ac angen mwy o ddefnydd o drydan, gwres, sy鈥檔 ymwneud yn uniongyrchol 芒'u anabledd.
"Mae angen iddynt gael cartrefi cynnes - efallai oherwydd nam ar eu golwg mae angen iddynt gael golau da."
Cafodd y mater ei godi gan AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, yn ystod Cwestiynau鈥檙 Prif Weinidog, yr wythnos hon.
Dywedodd Ann Davies: "Mae fy etholwr Janette Crawford yn dioddef o ME a phoen cronig. Mae amodau oer, llaith gaeaf Cymreig yn mynd i olygu llawer mwy o ddolur cyhyr a blinder iddi.
"Mae hi wedi colli ei thaliadau tanwydd y gaeaf oherwydd bod ganddi bot bach o gynilon," ychwanegodd.
"Gydag 86% o bensiynwyr mewn tlodi, neu ychydig uwchlaw鈥檙 linell honno, i golli allan yng Nghymru, a wnaiff y Prif Weinidog sefydlu tariff ynni cymdeithasol i helpu pobl fel Janette?"
Wrth ateb, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer: 鈥淩ydym wedi etifeddu twll du o 拢22 biliwn.
"Ry鈥檔 ni wedi ymrwymo i'r clo triphlyg. Mae'r pwynt am bensiynau yn wirioneddol bwysig, ac mae鈥檙 clo triphlyg yn golygu y bydd y pensiwn yn cynyddu eto 拢460 y flwyddyn nesaf.
"Mae hynny鈥檔 golygu y bydd pensiynwyr o dan Lafur yn well eu byd, oherwydd ry鈥檔 ni鈥檔 mynd i sefydlogi鈥檙 economi."
Cymorth arall ar gael?
Mae'r arbenigwr pensiynau Helen Morrissey, Pennaeth Dadansoddi Ymddeoliad yn Hargreaves Lansdown, yn dweud bod gan bobl sydd wedi colli鈥檙 taliad opsiynau.
Fe allai pobl wneud cais am gredyd pensiwn ac mae cymorth arall ar gael hefyd, meddai.
Awgrymodd bod modd edrych i weld "os ydych chi鈥檔 gymwys ar gyfer y gostyngiad cartref cynnes, sef ad-daliad o 拢150 oddi ar eich biliau tanwydd".
Ond nid yw Helen yn meddwl y bydd y Canghellor yn newid trywydd.
"Un peth a allai ddigwydd efallai yw ei bod yn meddalu rywfaint. Rwy'n meddwl bod cryn dipyn o achosion wedi bod o bobl nad ydynt yn hollol gymwys i gael credyd pensiwn.
"Efallai y byddwn ni'n ei gweld hi鈥檔 ceisio dod 芒 rhyw fath o system i mewn lle mae鈥檙 bobl hynny yn gallu derbyn ychydig mwy o gefnogaeth oherwydd nhw sy'n colli fwya' oherwydd hyn."
Dywedodd Joel James AS, Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig: "Rhaid i Lafur wrando ar y rhybudd llym gan y Comisiynydd Pobl H欧n. Bydd pensiynwyr yn marw oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud.
鈥淢ae degau o filoedd o bobl o Gymru鈥檔 unig wedi arwyddo deisebau yn galw ar Lafur i wrthdroi鈥檙 penderfyniad nonsensaidd hwn.
"Mae amser o hyd i newid cwrs cyn y gaeaf a rhoi'r arian y maent yn ei haeddu i bensiynwyr, cyn ei bod hi'n rhy hwyr."