Datgelu cynlluniau tram Caerdydd gwerth 拢100m
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer tram newydd - a allai ymestyn ar draws Caerdydd gyfan yn y pen draw - wedi cael eu datgelu.
Y gobaith yw y bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, sy'n cysylltu gorsaf ganolog y ddinas 芒'r Bae, wedi'i gwblhau erbyn dechrau 2029.
Dywedodd Cyngor Caerdydd, sy'n gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i adeiladu'r dramffordd, y byddai'r Cledrau Croesi yn y pen draw yn cysylltu "rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig" y ddinas 芒'r rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu barn ar y cynlluniau fel rhan o , sy'n rhedeg tan ddiwedd mis Hydref.
拢100m i cam un
Hyd yn hyn, dim ond cam cyntaf Cledrau Croesi sydd wedi sicrhau cyllid, sy鈥檔 cysylltu gorsaf Caerdydd Canolog 芒 Bae Caerdydd ar y tr锚n am y tro cyntaf.
Bydd hyn yn golygu adeiladu dau blatfform newydd yng nghefn maes parcio Caerdydd Canolog, gorsaf brysuraf Cymru.
Mae 拢100m wedi'i godi i gefnogi'r cam cyntaf, gan gynnwys 拢50m o Gronfa Codi'r Gwastad (Levelling Up Fund) Llywodraeth y DU a 拢50m gan Lywodraeth Cymru.
Nid yw cost y prosiect Cledrau Croesi llawn yn glir, er yn 2019 cyfeiriodd cyngor y ddinas at gynlluniau fel "gweledigaeth trafnidiaeth gwerth 拢1bn".
Y gobaith yw y bydd y gwaith o adeiladu鈥檙 cam cyntaf yn dechrau yn hydref 2025 ac mae datblygwyr yn gobeithio cael yr adran honno ar waith erbyn diwedd 2028 neu ddechrau 2029.
Nid oes amserlen ar gyfer y prosiect Cledrau Croesi ehangach.