GogLais: Archwilio'r profiad cwiyr yng ngogledd-orllewin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Evans-Jones yn awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Ennillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2023, ac mae wedi enill Medal Ddrama鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021.
Nawr, mae ar fin dechrau prosiect newydd o鈥檙 enw GogLais. Nod GogLais yw archwilio鈥檙 profiad cwiyr yng ngogledd-orllewin Cymru a gofyn y cwestiwn beth yw鈥檙 ddrama gwiyr Gymraeg, gogledd-orllewin heddiw.
Dywedodd Gareth, sydd o Farian Glas yn Ynys M么n:
鈥淪gwrs efo Gethin Evans [Cyfarwyddwr Artistig] Fr芒n Wen oedd hi i ddechrau yngl欧n a pha fath o ddram芒u cwiyr sy 鈥檔a dyddiau yma. Dyma sylwi fod 鈥檔a fwy o ddram芒u cwiyr yn Gymraeg heddiw 鈥 sy鈥檔 wych o beth 鈥 ond mae rheiny sy鈥 鈥檔a yn dueddol i ganolbwyntio fwy at dde-ddwyrain Cymru.
鈥淢ae yna ambell eithriad fel Br锚n, Calon, Fi gan Bethan Marlow, sgyno鈥檙 elfen gogledd-orllewin i ryw raddau, ond does dim llawer wedi鈥檜 gwreiddio yn y gogledd.鈥
Mae鈥檔 prysuro i ddweud nad oes modd i unrhyw ddrama gyfleu pob profiad cwiyr yn y gogledd-orllewin gan fod profiad pawb yn wahanol.
"Bob profiad yn wahanol"
Ond ei fwriad gyda phrosiect GogLais yw gofyn y cwestiwn sut beth yw bod yn berson LHDTC+ yn y gogledd heddiw? Oes llai o issues nag oedd yna 20 mlynedd yn 么l neu a yw pobl LHDTC+ yn dal i osgoi mynd allan i dref benodol rhag ofn cael eu hambygio?
Er mwyn dechrau鈥檙 trafodaethau hyn mewn gofod diogel, mae Gareth a chefnogwyr o GISDA a TINN Gogledd Cymru yn gwahodd pobl i wylio detholiad o bump drama gwiyr sydd 芒鈥檜 gwreiddiau yn y Gymru wledig.
Yn dilyn bob perfformiad, bydd trafodaeth gyda鈥檙 gynulleidfa lle bydd yn holi cwestiynau fel 鈥榓 yw鈥檙 ddrama鈥檔 dangos profiad cyfarwydd i chi?鈥, neu 鈥榦es rhywbeth yn broblematig yn y ddrama hon?鈥 ac yn y blaen.
Cynhaliodd Gareth y sesiwn gyntaf o bump nos Fercher, 27 Tachwedd, yn Nyth y Fr芒n Wen ym Mhorthaethwy. Perfformiwyd 鈥榃yneb yn Wyneb鈥 gan Meic Povey gan Judith Humphreys a Gethin Bickerton.
鈥淵r unig ddrama Gymraeg sydd efo unrhyw gynrychiolaeth gwiyr yn yr ardal yma ydi Wyneb yn Wyneb gan Meic Povey, sydd o tua 30 mlynedd yn 么l. Hon ydy鈥檙 ddrama gyntaf o sesiynau GogLais ac mae hi鈥檔 trafod HIV ac AIDS, a bod, mewn difri鈥, bod yn hoyw yn rhywbeth sy鈥檔 arwain at atgasedd cymdeithasol ac atgasedd teuluol a marwolaeth. A dyna鈥檙 math o naratifau sydd wedi cael eu gweld yn aml.鈥
Beth mae'n ei olygu i fod ynLHDTC+ yn y gogledd heddiw?
Hoffai Gareth sgwrsio gyda phobl sy鈥檔 mynd i helpu i ehangu鈥檙 naratif hwn. Mynegodd ei fod eisiau gwybod beth yw鈥檙 pethau da am fod yn LHDTC+ yng ngogledd-orllewin Cymru, beth yw鈥檙 heriau cyffredin 鈥 ydy o鈥檔 rhywbeth i wneud efo rhagenwau, ydi o鈥檔 rhywbeth i wneud efo perthnasau o ran rhai monogamous neu rai agored.
Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn clywed am sut mae鈥檙 to iau yn gweld bod yn cwiyr o鈥檌 gymharu 芒 sut mae pobl h欧n yn gweld pethau, beth yw鈥檙 gwahaniaethau.
鈥淢ewn difri, lot o gwestiynau sy鈥 gen i. Bwriad GogLais ydi creu gofod lle mae modd rhannu鈥檙 safbwyntiau o ran be鈥 mae鈥檔 olygu i fod yn LHDTC+ yn y gogledd heddiw 鈥檓a.鈥
Mae鈥檔 gobeithio denu pobl o bob hunaniaeth i鈥檙 sesiynau er mwyn cael darlun mor eang a phosib cyn iddo fynd ymlaen at ail ran y prosiect, sef ysgrifennu drama Gymraeg gwiyr gyfoes.
鈥淢ae鈥檔 bwysig nodi nad drama air-am-air fydd hi, a fydd 鈥檔a ddim defnyddio straeon go iawn na geiriau go iawn pobl. Cael gweld be鈥 ydi鈥檙 teimladau a鈥檙 safbwyntiau, dyna bwrpas y cam cyntaf 鈥檓a.鈥
Bydd rhan gyntaf prosiect GogLais yn digwydd dros gyfnod o bump wythnos tan ganol Ionawr 2025. Y dram芒u fydd yn cael eu perfformio, a hynny am ddim, yw Wyneb yn Wyneb gan Meic Povey, Es & Flo gan Jennifer Lunn, 5 Guys Chillin鈥 gan Peter Darney, Overflow gan Travis Alabanza a Vampire Lesbians of Sodom gan Charles Busch.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin