Dyn, 33, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 33 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i d欧 ar Ffordd Cefndy yn y dref nos Iau.
Bu farw Catherine Flynn ar 么l iddi gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Clywodd Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun fod Dean Mark Albert Mears, o Rodfa Bodelwyddan ym Mae Cinmel, hefyd yn wynebu cyhuddiad o fwrgleriaeth waethygedig (aggravated burglary).
Ddydd Mawrth, ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ym mis Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn 么l
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn 么l