91热爆

Ymgeisydd Ceidwadol yn tynnu'n 么l wedi sylwadau 'amhriodol'

Sam Trask
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymddiheurodd Sam Trask am y sylwadau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Pen-y-bont wedi tynnu allan o'r etholiad cyffredinol oherwydd sylwadau "hollol amhriodol" yr oedd wedi'u gwneud ar-lein.

Adroddodd y Mirror fod Sam Trask wedi cyhoeddi negeseuon rhywiol am fenywod i wefan myfitnesspal.

Ymddiheurodd Mr Trask am y sylwadau a gafodd eu gwneud nifer o flynyddoedd yn 么l meddai.

Dywedodd yr ymgeisydd Llafur ar gyfer y sedd, Chris Elmore: "Mae'r datgeliadau erchyll hyn yn codi cwestiynau difrifol am safon yr ymgeiswyr y mae'r Tor茂aid wedi'u gorfodi i'w dewis."

Mae鈥檙 Ceidwadwyr yn amddiffyn y sedd a enillwyd ganddynt yn yr etholiad cyffredinol yn 2019.

Roedd Mr Trask yn ymgeisydd am nad oedd AS blaenorol y blaid, Jamie Wallis, wedi sefyll eto ar gyfer yr etholaeth.

Dyw hi ddim yn glir pwy fydd yn sefyll dros y blaid yn y sedd, sydd wedi newid ffiniau ar gyfer yr etholiad.

Mae'r enwebiadau'n cau am 17:00 ddydd Gwener.

Dywedodd Mr Trask: 鈥淐afodd y sylwadau hyn eu gwneud nifer o flynyddoedd yn 么l, ac rwy鈥檔 cydnabod eu bod yn hollol amhriodol.

"Am hynny rwy鈥檔 ymddiheuro ac rwyf wedi penderfynu tynnu鈥檔 么l fel ymgeisydd.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad yw'r blaid yn "cefnogi'r sylwadau", a'u bod yn "ymchwilio i'r mater".

Ymgeiswyr eraill Pen-y-bont

Llafur - Chris Elmore

Democratiaid Rhyddfrydol 鈥 Claire Waller

Plaid Cymru 鈥 Iolo Caudy

Reform UK 鈥 Caroline Jones

Y Blaid Werdd 鈥 Debra Cooper

Annibynnol - Mark Richard John