91热爆

Beiciwr modur, 33, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

Rhan o'r A541 yn RhydymwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 yn Rhyd-y-mwyn, ger Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn lleol 33 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug yn Sir Y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A541 ym mhentref Rhyd-y-mwyn, ger y gyffordd 芒'r B5123, ychydig ar 么l 14:00 ddydd Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur.

Fe gafodd y beiciwr modur, oedd yn 33 oed ac yn dod o Sir Y Fflint, ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Aintree, ble bu farw ddydd Iau.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am yr achos ac mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn parhau.

Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol bod eu "meddyliau gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd yma" a'u bod yn diolch pawb sydd eisoes wedi cysylltu 芒'r heddlu mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Ychwanegodd: "Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad sydd eto i siarad 芒 ni, neu unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad all fod 芒 lluniau dashcam, gysylltu 芒 ni cyn gynted 芒 phosib."