91热爆

Rob a Ryan yn prynu cyfran o gwmni Wrexham Lager

Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn stadiwm y Cae RasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o nodau cwmni Rob McElhenney a Ryan Reynolds yw hybu twf yn gyffredinol yn ardal Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae'r s锚r Hollywood sy'n berchen ar Glwb P锚l-droed Wrecsam nawr hefyd ymhlith perchnogion bragdy amlycaf a mwyaf hanesyddol y dref.

Wrexham Lager Beer Co, a gafodd ei sefydlu gan Almaenwyr yn 1882, yw bragwr lager hynaf Prydain.

Daeth cadarnhad ddydd Mercher bod Rob McElhenney a Ryan Reynolds bellach yn rhan o'r cwmni, ochr yn ochr 芒'r teulu Roberts a ail-lansiodd y fenter yn 2011.

Dywed yr actorion eu bod "yn gyffrous" o fod yn rhan "o helpu ysgrifennu pennod nesaf" y cwmni.

Mewn datblygiad ar wah芒n dydd Mercher, fe wnaeth Clwb P锚l-droed Wrecsam gyhoeddi eu bod wedi gwerthu cyfran o'r clwb i'r teulu Allyn o'r Unol Daleithiau - cyn-berchnogion y cwmni cynhyrchu dyfeisiau meddygol Welch Allyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Wrexham Lager ei sefydlu yn y dref dros 140 o flynyddoedd yn 么l

Mae'r cytundeb a chwmni Wrexham Lager yn rhan o ymroddiad y ddau, trwy eu cwmni Red Dragon Ventures, i hybu twf yn ardal Wrecsam, yn ogystal ag o fewn y clwb p锚l-droed ei hun.

Dywed datganiad y cwmni y bydd modd yn sgil y cytundeb i "ehangu'n sylweddol" seilwaith, cynhyrchiad rhyngwladol, dosbarthiad a threfniadau marchnata Wrexham Lager.

Dywedodd yr actorion eu bod "wedi dysgu llawer" ers fod yn berchen ar GPD Wrecsam, gan gynnwys "y cysylltiad rhwng clwb a chymuned, cymhlethododau'r rheol camsefyll a'r angen achlysurol am gwrw - yn enwedig ar 么l cyfarfodydd cyllid".

Fe fydd y teulu Roberts yn parhau 芒 rhan weithredol yn y busnes, gan oruchwylio ansawdd y cynnyrch a bod yn gyfrifol am drefniadau bragu a phrosiectau cymunedol lleol.

Dywedodd y teulu bod hwn "yn destun balchder i ni gyd" fel rhai sydd wedi eu "geni a magu yn Wrecsam".

"Pan wnaethon ni gymryd y bragdy drosodd yn 2011 ein prif nod oedd cadw rhan o ein hanes lleol yn fyw...

"Gyda chyd-berchnogion newydd nawr, mae'r cyfle i wireddu rhai o'n breuddwydion mwy uchelgeisiol... nawr wir yn realiti."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna obeithion mawr y gallai'r bartneriaeth rhwng yr actorion a'r bragdy arwain at fwy o werthiant ar draws y byd

Mae'r cytundeb yn gyfle i adeiladu ar frand "sydd 芒 threftadaeth ragorol", yn 么l James Wright, a gafodd ei benodi'n ddiweddar yn brif weithredwr Wrexham Lager Beer Co Ltd.

"Mae cael Rob a Ryan gyda ni wrth i ni ehangu ar lefel ryngwladol yn anferthol i ni," meddai.

"Maen nhw wedi gwneud gwyrthiau i dref Wrecsam ac maen nhw'n rhannu'n gryf ein hangerdd i weld Wrexham Lager yn cael ei fwynhau unwaith yn rhagor ym mhedwar ban byd."

Buddosddiad newydd

Cyn y cyhoeddiad yngl欧n 芒 pherthynas busnes newydd perchnogion Clwb P锚l-droed Wrecsam, daeth i'r amlwg fod y clwb wedi gwerthu cyfran leiafrifol i'r teulu Allyn.

Roedd y teulu o Efrog newydd yn berchen ar gwmni Welch Allyn am dros ganrif, ond cafodd y cwmni hwnnw ei werthu yn 2015.

Fe fydd y teulu nawr yn ymuno 芒 Ryan Reynolds a Rob McElhenney fel cyd-berchnogion - ond dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw maint y gyfran y maen nhw wedi ei brynu.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr actorion eu bod yn canolbwyntio ar "ddenu partneriaid newydd o'r safon uchaf" i helpu gyda'r "cam nesaf yn natblygiad y clwb".

Dywedodd Eric Allyn, Prif Swyddog Buddsoddiadau swyddfa'r teulu: "Am dros ganrif mae'n teulu ni wedi canolbwyntio ar sefydlu cwmn茂au gwych, tra'n cael effaith cadarnhaol ar gymunedau hefyd.

"Mae'n ymdrechion yn ardal Syracuse dros y degawdau diwethaf yn debyg i'r hyn mae Rob a Ryan wedi ei ddechrau yn Wrecsam.

"Rydyn ni'n gweld hyn fel cyfle i fuddsoddi mewn clwb p锚l-droed o'r safon uchaf, ac fel cyfle i fuddsoddi yng nghymuned groesawgar Wrecsam"