'Anniogel a digalon' gweithio yn uned mân anafiadau Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae gweithio mewn uned mân anafiadau ysbyty yng ngorllewin Cymru yn gallu teimlo’n “beryglus”, yn ôl un nyrs yno.
Bwriad unedau fel yr un yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli yw trin cleifion sydd ag anafiadau llai difrifol.
Ym mis Medi fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y bydd yr uned yn cau dros nos am gyfnod o chwe mis o fis Tachwedd ymlaen, ond mae 'na bryder y gall newid o'r fath beryglu bywydau.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae’r penderfyniad yn un dros dro “gyda’r bwriad o gadw staff a chleifion yn ddiogel”.
- Cyhoeddwyd11 Hydref
- Cyhoeddwyd5 Hydref
- Cyhoeddwyd1 Hydref
Yn yr uned mân anafiadau mae meddygon teulu a nyrsys yn darparu gofal i bobl sydd ag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Serch hynny, mae staff yn dweud bod cleifion gydag anafiadau difrifol yn dal i ddod i’r ysbyty.
Mae Claire Thomas yn uwch ymarferydd nyrsio ac wedi gweithio yn yr uned am 25 mlynedd.
“Roedd un diwrnod wythnos ddiwethaf lle'r oedd chwech [achos o] chest pain wedi bwcio mewn, ac wedyn chi’n dechrau becso achos chi’n meddwl ‘efallai bydd un ohonyn nhw’n cael trawiad ar y galon’," meddai.
"Felly chi’n meddwl ‘dwi’n gorfod brysio’ a chi’n becso wedyn bo' chi’n mynd i golli rhywbeth.”
Er bod y nyrsys yn brofiadol, meddai Ms Thomas, nid oes ganddyn nhw’r sgiliau i ddelio gyda rhai anafiadau, ac mae hynny'n gallu bod yn “beryglus”.
“Mae hynny’n gallu rhoi llawer o bwysau arnom ni,” ychwanegodd.
'Lle digalon i weithio'
Dr Jon Morris yw arweinydd clinigol yr uned, ac mae'n dweud “bod rhaid i rywbeth newid”.
“Mae’n gallu bod yn le digalon i weithio, ac anniogel,” meddai.
“Dwi’n aml yn gadael fan hyn yn becso mod i wedi gwneud y peth anghywir neu ddim digon, a bydd cleifion yn y pendraw yn dod i niwed.”
Yn ôl y bwrdd iechyd, er nad oedd yn benderfyniad hawdd, mae’n rhaid cau'r uned dros nos oherwydd problemau staffio.
Ychwanegodd Dr Morris: “Ni wedi recriwtio 15 o ddoctoriaid dros y 12 mis diwethaf, ond yn aml maen nhw’n dod i’r uned, gweld sut mae’n gweithio ac wedyn dydyn nhw ddim eisiau shifftiau.”
Fe gaeodd uned gofal brys yr ysbyty yn 2016, ac mae’r bwrdd iechyd yn cynghori pobl i deithio i unedau gofal brys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Dreforys yn Abertawe.
Byddai mân anaf yn cynnwys torri esgyrn, mân glwyfau neu losgiadau.
Fe aeth Joanne Nicholas, 35 o Lanelli, i’r uned wedi iddi dorri ei bys ar ddarn o wydr wrth olchi llestri.
“Mae mor bwysig i ni gyd. Mae’r uned lan yr heol, os bydde’ fe’n cau byddai’n siwrne hir i Gaerfyrddin neu Dreforys.”
Roedd Kay Rickett, 62, o Gydweli wedi profi “poen eithriadol” yn ei phen-glin wrth chwarae bingo gyda’i ffrind, a byddai ambiwlans wedi cymryd wyth awr i’w chyrraedd meddai.
“Os ti’n cau llefydd fel hyn, dwi’n meddwl bydd pobl yn cael problemau difrifol neu hyd yn oed yn marw.”
'S'dim ots gyda nhw am Lanelli'
Mae protestwyr wedi bod yn gwersylla y tu allan i'r ysbyty er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd â phenderfyniad y bwrdd iechyd.
Mae Neville Gilasbey yn gwirfoddoli gyda grŵp SOSSPAN.
“Mae’n edrych fel dydyn nhw ddim yn meddwl am y gymuned o gwbl, s’dim ots gyda nhw am Lanelli," meddai.
“Mae siwd gymaint o bobl yn byw yn yr ardal, sy’n dibynnu ar yr ysbyty yma. S’dim pawb gyda char neu’n gallu fforddio tacsi.”
O fis Tachwedd fe fydd yr uned ar agor rhwng 08:00 ac 20:00 yn unig.
Roedd y penderfyniad i gau dros nos, er yn anodd, yn anochel oherwydd problemau staffio, yn ôl Dr Robin Goshal, cyfarwyddwr meddygol Ysbyty Tywysog Phillip.
“Ni’n barod ar ei hôl hi o ran recriwtio. Ni wedi cynnal gwahanol fentrau i geisio recriwtio yma a thramor.”
Awgrymodd y dylai cleifion fynd i’r ysbyty mwyaf addas ar gyfer eu hanaf: “Dydy e ddim wastad yn golygu’r ysbyty ar eich stepen drws.
“Y lle cywir yw lle mae’r doctoriaid a nyrsys gyda’r sgiliau cywir. Gall hynny fod yng Nglangwili, mewn rhai achosion gall hynny fod yn Nhreforys neu hyd yn oed Caerdydd.”
Ychwanegodd: “Dyna sut mae’r gwasanaeth iechyd yn newid. Bydd yna newidiadau ledled Cymru yn nhermau beth sy’n cael ei ddarparu mewn ysbytai penodol.
"Dydy popeth ddim yn gallu cael ei ddarparu ym mhobman, fe aeth y dyddiau hynny sbel yn ôl.”
Dadansoddiad
Owain Clarke, Gohebydd Iechyd 91ȱ Cymru
Dyma enghraifft unwaith eto o'r effaith mae prinder staff yn ei gael ar rannau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r uned yn Llanelli yn gweld tua 31,000 o gleifion y flwyddyn, ond yn ôl y bwrdd iechyd, oherwydd prinder meddygon, fe wnaethon nhw fethu a llenwi 42 o sifftiau yno rhwng Chwefror a Mehefin eleni.
Mae'n wir i ddweud bod gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda heriau sylweddol o ran staffio, gyda chyfraddau swyddi gwag ymhlith meddygon a deintyddion yn agos at 20%.
Ond dyw hon ddim yn her newydd. Nol yn 2011 pan gafodd y cynlluniau eu cyhoeddi i droi uned frys yn Ysbyty Tywysog Philip yn uned mân anafiadau, dadl y rheolwyr bryd hynny oedd bod rhai gwasanaethau wedi eu "gwasgaru yn rhy denau".
Yr addewid ers hynny yw y byddai canoli gwasanaethau - gan gynnwys mewn ysbyty newydd ar gyfer gorllewin Cymru - yn gymorth wrth recriwtio ac yn gosod pethau ar sylfaeni cryfach.
Ond fydd hi'n flynyddoedd eto cyn y gwelwn ni'r ysbyty newydd hwnnw.
Gyda'r heriau yn parhau, efallai nad yw'n syndod fod rhai cymunedau yn teimlo'n anfodlon os ydyn nhw'n teimlo eu bod yn colli gwasanaethau heb fawr ddim i'w weld yn dychwelyd.